Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi ymgyrch newydd gan Frigâd Dân Llundain i annog y cyhoedd i #Call999BeforeYouFilm yn dilyn cynnydd yn nifer y bobl sy’n ffilmio digwyddiadau brys yn hytrach na ffonio 999.

Gallai unrhyw oedi wrth alw’r gwasanaethau brys ddwyn canlyniadau dinistriol. Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn adnodd gwerthfawr ond un anfantais yw bod pobl wedi dod yn canolbwyntio’n fwy ar gael eich hoffi neu eich aildrydar am rannu cynnwys dramatig, yn hytrach na galw 999.

Mae technoleg wedi dod yn ei flaen gymaint ac o ganlyniad mae pobl yn anghofio’r pethau sylfaenol ac yn mynd yn hunanfodlon ynglŷn â’u rôl mewn argyfwng. Peidiwch byth â thybio bod rhywun arall wedi gwneud yr alwad, gall derbyn galwadau niferus i’r un tân helpu ein swyddogion rheoli greu darlun gwell o’r digwyddiad a allai gynnwys neilltuo mwy o injans tân i fynychu.

Mae Brigâd Dân Llundain yn dweud eu bod yn drysu wrth i’r injan dân cyntaf gyrraedd lleoliad gan fod pobl yn sefyll o gwmpas yn ffilmio adeilad yn llosgi yn hytrach na galw’r gwasanaethau brys.

Cofiwch #Call999BeforeYouFilm.

Beth sy’n digwydd pan rydych chi’n ffonio 999?

  • Pan fyddwch yn ffonio 999, byddwch yn cael eich cysylltu â gweithredwr a fydd yn gofyn pa wasanaeth argyfwng sydd ei angen arnoch. Os ydych yn dweud ‘tân’, byddwch yn cael eich cysylltu â’r ystafell rheoli tân.
  • Yn gyntaf, bydd ein swyddogion rheoli yn gofyn am gyfeiriad yr argyfwng. Os nad ydych chi’n gwybod y cyfeiriad llawn, peidiwch â phoeni, bydd enw’r ffordd a’r tirnod yn ddigon i ddechrau.
  • Bydd ein swyddogion rheoli yn gofyn beth sy wedi digwydd, ond ni fydd hyn yn achosi oedi o ran cael help i chi o gwbl.
  • Hyd yn oed os nad yw’r wybodaeth i gyd gyda chi, ffoniwch 999 serch hynny. Peidiwch â’i chymryd yn ganiataol bydd rhywun arall wedi ffonio.
  • Pan fyddwch yn ffonio 999, ceisiwch fod mor ddigynnwrf â phosibl.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.london-fire.gov.uk/news/2019-news/august/think-before-you-film-urge-london-fire-brigade/