Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad

Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sy’n dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny’n bosibl, i ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Bydd y tasglu, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2016 i fynd i’r afael ag achosion o gynnau tanau glaswellt yn fwriadol ledled Cymru, hefyd yn rhoi sylw i’r cynnydd mewn tanau damweiniol, a achosir yn aml o ganlyniad i’n hymddygiad diofal ein hunain pan fyddwn allan yn mwynhau yng nghefn gwlad.

Ym 2023 gwnaeth gwasanaethau tân ledled Cymru fynychu 1,880 o ddigwyddiadau tanau gwair – roedd hyn yn ostyngiad o 45% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol gyda thanau gwair bwriadol yn gostwng o 1,059 (45%) i 1,031.  Rydym am barhau yn y cyfeiriad hwn.

Bob blwyddyn, mae tanau yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o ardaloedd cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt.  Rydym am weithio gyda’n cymunedau i adeiladu cefn gwlad iachach a mwy gwydn ac i ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer ein dyfodol. Mae gweithio gyda’n cymunedau a rhannu ein gwybodaeth yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o’r hyn y gallwn ei wneud i leihau’r difrod y mae tanau damweiniol yn ei achosi i’n hamgylchedd.

 

Dywedodd Peter Greenslade, Cadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw:

 “Rydym yn lansio ein hymgyrch eto eleni ar Ddydd Gŵyl Dewi, a hynny gyda phle gwladgarol ein bod i gyd yn parhau i gydweithio i adeiladu tirwedd Gymreig iachach a mwy gwydn trwy ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer ein dyfodol. Rydym am barhau i amddiffyn ein tirweddau, ein glaswelltir a’n cefn gwlad y mae pob un ohonom mor ffodus eu bod gennym ar garreg ein drws.

“Rydym am weithio gyda’n cymunedau, ein ffermwyr a’n tirfeddianwyr i rannu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r effaith y mae tanau bwriadol a thanau damweiniol yn ei chael ar ein cymunedau. Rydym yn deall y gall llosgi rheoledig gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan greu bioamrywiaeth ac ecosystem gynaliadwy, ac rydym ar gael i roi cyngor am ddim ar sut i fynd ati i wneud hyn yn ddiogel.

“Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu ein neges: er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna rai yn ein cymunedau sy’n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol – nid yn unig y mae hyn yn drosedd y byddant yn cael eu herlyn amdani, ond mae hefyd yn gosod pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau”.

Mae’r Ymgyrch hefyd yn parhau â’i gwaith gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, gan eu hatgoffa, er y gallant losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth mewn ardaloedd tir uchel), mae’n rhaid bod ganddynt Gynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi’n ddiogel. Mae’n anghyfreithlon llosgi y tu allan i’r tymor llosgi, a gall arwain at gosbau o hyd at £1000.

Cofiwch – Os ydych allan yn mwynhau yng nghefn gwlad ac yn dod ar draws unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

 Diffoddwr tân yn taclo tân gwyllt ar fynydd
Diffoddwr tân yn taclo tân gwyllt ar fynydd