Yn Cydweithio i Ddiogelu ein Cefn Gwlad a’n Gwlad

Mae Ymgyrch Dawns Glaw, sy’n dasglu amlasiantaethol o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru, wedi ailffurfio i leihau, a lle bo hynny’n bosibl, i ddileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru.

Bydd y tasglu, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2016 gan y Bwrdd Strategol ar gyfer Atal Tanau Bwriadol yng Nghymru i fynd i’r afael ag achosion o gynnau tanau glaswellt yn fwriadol ledled Cymru, hefyd yn rhoi sylw i’r cynnydd mewn tanau damweiniol, a achosir yn aml gan ein hymddygiad diofal ein hunain pan fyddwn allan yn mwynhau yng nghefn gwlad.

Yn 2022, ymatebodd y gwasanaethau tân ledled Cymru i 3,269 o danau glaswellt – roedd hyn yn gynnydd o 62% ar y flwyddyn flaenorol, gyda nifer y tanau glaswellt bwriadol yn cynyddu 1,542 (47%) i 2,263. Roedd y cynnydd yn bennaf oherwydd y tywydd sych a phoeth ym mis Gorffennaf a mis Awst, a arweiniodd at ail gynnydd yn nifer y digwyddiadau, yn ogystal â gweithgarwch Mawrth/Ebrill.

Bob blwyddyn, mae tanau yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o ardaloedd cefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt.  Rydym am weithio gyda’n cymunedau i adeiladu cefn gwlad iachach a mwy gwydn ac i ddatblygu cefn gwlad mwy bioamrywiol ar gyfer ein dyfodol. Mae gweithio gyda’n cymunedau a rhannu ein gwybodaeth yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o’r hyn y gallwn ei wneud i leihau’r difrod y mae tanau damweiniol yn ei achosi i’n hamgylchedd.

Dywedodd Peter Greenslade, Pennaeth Atal ac Amddiffyn Corfforaethol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Chadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw:

“Yn yr un modd â’r blynyddoedd blaenorol, rydym yn lansio ein Hymgyrch Dawns Glaw wrth i’r tywydd ddechrau gwella, wrth i’r nosweithiau fynd yn oleuach, ac wrth i’n defnydd o dirwedd, cefn gwlad a glaswelltir Cymru ddechrau cynyddu.

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn parhau i gydweithio i adeiladu tirwedd iachach, fwy gwydn a chynyddol fioamrywiol yma yng Nghymru, gan wneud yr hyn a allwn i warchod yr adnodd gwerthfawr hwn ar gyfer y dyfodol.

“Rydym am weithio gyda’n cymunedau, ein ffermwyr a’n tirfeddianwyr i rannu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth ynghylch yr effaith y mae tanau bwriadol a thanau damweiniol yn ei chael ar ein cymunedau.  Rydym yn deall y gall llosgi rheoledig gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan greu bioamrywiaeth ac ecosystem gynaliadwy, ac rydym ar gael i roi cyngor am ddim ar sut i fynd ati i wneud hyn yn ddiogel.

“Hoffwn achub ar y cyfle hefyd i atgyfnerthu ein neges: er y gall damweiniau ddigwydd, mae yna rai yn ein cymunedau sy’n rhoi ein cefn gwlad ar dân yn fwriadol – nid yn unig y mae hyn yn drosedd y byddant yn cael eu herlyn amdani, ond mae hefyd yn gosod pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen ac yn peryglu ein cymunedau. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â throseddau o’r fath i ffonio 101, neu i gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”

Mae’r Ymgyrch hefyd yn parhau â’i gwaith gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, gan eu hatgoffa, er y gallant losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth mewn ardaloedd tir uchel), mae’n rhaid bod ganddynt Gynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi’n ddiogel. Mae’n anghyfreithlon llosgi y tu allan i’r tymor llosgi, a gall arwain at gosbau o hyd at £1,000.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am #DawnsGlaw 2023 trwy wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru www.mawwfire.gov.uk/DawnsGlaw, lle gallwch hefyd gael hyd i awgrymiadau diogelwch syml a lawrlwytho negeseuon diogelwch yr ymgyrch i’w defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun. Gyda’n gilydd gallwn helpu i atal tanau glaswellt a diogelu ein cefn gwlad a’n gwlad.

Cofiwch – Os byddwch allan yn mwynhau yng nghefn gwlad ac yn dod ar draws unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.