Ymladdwyr tân Merthyr Tudful yn coginio gwledd Nadoligaidd i drigolion lleol.

Treuliodd ymladdwyr tân o Orsaf Dân Merthyr Tudful brynhawn yn ymweld â Llys y Santes Dudful, Caedraw — yn coginio ac yn gweini cinio Nadolig gyda’r holl gyfwyd ar gyfer 22 o drigolion.

Roedd y trigolion hefyd wrth eu boddau yn cael perfformiad arbennig gan gôr Tenovus.

Dywedodd y Rheolwr Gwylfa Steve Owen: “Roedd hwn yn gyfle hyfryd i’r criw roi yn ôl i’r gymuned, dod â thipyn o hwyl yr ŵyl i’r trigolion a helpu i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân yn y cartref.

“Cawsom groeso cynnes iawn i’w cartrefi ac roedd yn wych gweld y gwahaniaeth y gall gweithred syml ei wneud i bobl dros gyfnod y gwyliau.”

Mae staff Gorsaf Merthyr Tudful yn weithgar iawn o ran ymgysylltu â’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu a dyma un enghraifft o blith llawer o’r ysbryd cymunedol arbennig a amlygir gan yr orsaf bob blwyddyn. Mae helpu i leihau risg a chodi ymwybyddiaeth yn rhan bwysig o’r gwaith y maent yn ei wneud i gadw pobl Merthyr Tudful yn ddiogel.

Dywedodd Sian Kyte, Uwch Swyddog Byw yn y Gymuned gyda Chartrefi Cymoedd Merthyr:

“Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych i drigolion Llys y Santes Dudful sy’n rhagweithiol iawn o ran diogelwch tân. Mae’r trigolion yn byw yn ein hunig Gynllun Byw yn y Gymuned a adeiladwyd o fewn bloc tŵr uchel, ac mae aelodau’r orsaf dân yn gweithio’n agos gyda ni a’r trigolion – Er enghraifft, wrth gynnal ymarfer ymgyfarwyddo. Roedd hi’n hyfryd bod y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal mewn lleoliad hamddenol ac anffurfiol lle’r oedd y criwiau’n gallu treulio amser yn dod i adnabod ein tenantiaid gwych.”

Mae’r Orsaf wedi gweithio’n agos gyda Chartrefi Cymoedd Merthyr Tudful ar ddiogelwch tân yn y gorffennol, ond dyma’r tro cyntaf i’r criwiau gael cyfle i arddangos eu sgiliau coginio. Sefydlwyd Cartrefi Cymoedd Merthyr yn 2009 ac mae’n berchen ar, ac yn rheoli, dros 4100 o gartrefi ar draws yr ardal a’r cwmni hwnnw oedd yr un cyntaf i fod yn gydfuddiannol i denantiaid a gweithwyr. Mae Llys y Santes Dudful yn un o chwe chynllun byw yn y gymuned y mae Cartrefi Cymoedd Merthyr Tudful yn gyfrifol amdanynt.

 

Cofiwch gadw’n ddiogel gartref yn ystod y gwyliau hyn, p’un a ydych yn coginio neu’n mynd allan am ddiod Nadolig. I gael rhagor o wybodaeth am awgrymiadau i gadw’n ddiogel, ewch i’n gwefan: https://www.decymru-tan.gov.uk/eich-diogelwch-a-lles/yn-y-cartref/