Ymladdwyr Tân De Cymru yw’r cyntaf yng Nghymru i dreialu camerâu fideo a wisgir ar y corff

Bydd y cynllun peilot yn gweld diffoddwyr tân yn defnyddio dyfeisiau i ddal lluniau digwyddiadau byw ar gyfer hyfforddiant, dadansoddi digwyddiadau ac ymchwiliadau tân.

Bydd y ffilm yn cynorthwyo’r Gwasanaeth i werthuso a myfyrio ar eu perfformiad a’u penderfyniadau eu hunain i weld a ellir gwneud gwelliannau.

O ran digwyddiadau mawr neu sensitif gellir adolygu’r lluniau, gan ddarparu lefel uwch o gyngor tactegol a rhoi adborth. Gellid defnyddio’r deunydd fideo hefyd i gofnodi tystiolaeth ar gyfer ymchwiliadau’r Gwasanaeth Tân a’r Heddlu.

Defnyddir camerâu model Reveal D5, sy’n ysgafn dros ben, gyda batri sy’n para’n hir. Maen yn gryno gyda gorchudd gwydn cryf.  Bydd y dyfeisiau’n cael eu treialu’n bennaf gan Ddiffoddwyr Tân o fewn Tîm Adolygu Datblygu Gweithredol y Gwasanaeth a byddant yn helpu casglu deunydd fideo ar gyfer dysgu a myfyrio. Bydd y camerâu hefyd yn helpu creu amgylchedd diogel i ddigwyddiadau gweithredol, diogelu’r gymuned, ac o bosibl yn dystiolaeth yn erbyn y rhai sy’n bygwth ac yn cam-drin criwiau.

Dywedodd y Pennaeth Hyfforddiant a Rheolwr Ardal Dean Loader: “Mae cyflwyno’r dechnoleg newydd hon yn ddatblygiad newydd, cadarnhaol iawn i ni. Bydd cael y camerâu hyn yn gwella’r ffordd rydym yn casglu ymwybyddiaeth sefyllfaol, cynnal asesiadau digwyddiadau a gwneud penderfyniadau rheoli. Bydd y camerâu’n chwarae rhan hanfodol o fewn y Gwasanaeth, gan gynnwys hyfforddiant staff ar y rheng flaen yn ogystal â chasglu tystiolaeth mewn achubiadau a sefyllfaoedd eraill lle mae diogelwch y cyhoedd a staff yn hollbwysig.”

Bydd diffoddwyr tân sy’n defnyddio’r camerâu yn cael eu hyfforddi’n llwyr a byddant yn cyhoeddi eu bod yn recordio, i roi gwybod i bobl gyfagos bod ffilmio’n digwydd.

Bydd y wybodaeth a gofnodir yn cael ei hamgryptio er diogelwch a dim ond personél awdurdodedig fydd yn ei gweld. Bydd yr holl ddata’n cael ei gadw ar yriant diogel a chaiff ei dagio a’i ddileu fel mater o drefn ar ôl cyfnod cadw 60 diwrnod yn y rhan fwyaf o achosion.

Bydd y treial yn para tua 9 mis a bydd yn cael ei adolygu cyn cyflwyno’r gwasanaeth ar draws y Gwasanaeth.