Ymladdwyr Tân a staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a aeth i’r afael â thân Twmbarlwm yn cipio Gwobr i Arwyr

Ymladdwyr Tân a staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a aeth i’r afael â thân Twmbarlwm yn cipio Gwobr i Arwyr

Yn dilyn effaith ddinistriol tanau gwair ar draws De Cymru y llynedd mae ein staff wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion arwrol i gadw’r gymuned a’r amgylchedd yn ddiogel.

Yn 2018, buont yn gweithio bob awr o’r dydd gyda’n partneriaid i fynd i’r afael â’r tanau gwyllt a oedd yn lledu ar draws llethrau’r mynyddoedd, gyda’r fflamau yng Nhwmbarlwm yn gorchuddio 100 hectar.

Mae Gwobrau Balchder Gwent yn agored i enwebiadau gan y cyhoedd ac mae ein harwyr anhysbys wedi derbyn y gydnabyddiaeth uchaf o fewn y categori ‘ARWR 999’.

Dywedodd Huw Jakeway QFSM, Prif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru,: ‘ er gwaethaf pwysau cynyddol ar adnoddau’r haf diwethaf o ganlyniad i amodau tywydd eithafol, wynebodd ein hymladdwyr tân a’n staff yr her hon, dros nifer o wythnosau, gyda phroffesiynoldeb o’r radd flaenaf

Rwy’n falch dros ben o’u gwaith caled a’u hymroddiad i ddangos ein cenhadaeth i gadw De Cymru’n ddiogel. O’r rheini sy’n darparu gorchudd 24/7 o fewn ein hystafell reoli ar gyfer 999 i’r rhai sy’n gweithio y tu hwnt i bob disgwyliad yn ein gweithdai ynghyd â’r ymladdwyr tân a beryglodd eu bywydau yn y lleoliad. Buom hefyd yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid gan gynnwys Heddlu Gwent, yr awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru a oedd, gyda’n cydweithrediad wedi cynorthwyo gyda hofrennydd a oedd yn hanfodol i’n hymateb effeithiol. Roedd eu dewrder diflino wrth ddiogelu’r gymuned leol a bywyd gwyllt yn rhagorol ac mae’r wobr hon yn cydnabod pob un o’u cyflawniadau. Hoffwn ddiolch yn arbennig hefyd i’r preswylwyr lleol a oedd yn ein cefnogi drwy’r amser, gan gynnig hyd yn oed ddŵr a byrbrydau i’n hymladdwyr tân oedd yn mynd i’r afael â’r tân.

Cynhelir y seremoni ar ddydd Iau y 4ydd o Orffennaf 2019 yn Rodney Parade yng Nghasnewydd.