Wythnos Troseddau casineb 2018

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Cymorth i Ddioddefwyr Cymru a #HateCrimeAwarenessWeek a gynhelir o’r 15fed i’r 22ain o Hydref.

Troseddau casineb yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio digwyddiad neu drosedd yn erbyn rhywun sy’n seiliedig ar ran o’u hunaniaeth. Gall profi trosedd casineb fod yn brofiad arbennig o frawychus gan eich bod wedi cael eich targedu oherwydd pwy ydych chi, neu pwy neu beth mae eich ymosodwr yn ei feddwl yr ydych chi. Yn wahanol i droseddau nad ydynt yn gysylltiedig â hunaniaeth, mae’r ymosodiad yn bersonol iawn ac wedi’i dargedu’n benodol, sy’n golygu ei fod yn llai tebygol o fod yn ymosodiad ar hap.

Bob blwyddyn, mae trosedd casineb yn effeithio ar filoedd o bobl ym Mhrydain. Ni ddylai neb orfod byw gyda’r ofn a’r pryder y mae’r drosedd hon yn eu hachosi. Gall effeithio ar bobl eraill yn eich cymuned hefyd, yn enwedig os gwelir eu bod yn rhan o’r un grŵp mewn cymdeithas.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:

www.victimsupport.org.uk/crime-info/types-crime/hate-crime

Poster cymorth dioddefwyr gyda graffiti pikey ar garafán Poster cymorth dioddefwyr gyda graffiti rhad ac am ddim ar y wal Poster cymorth dioddefwyr gyda graffiti muslim scum ar y wal Mae poster cefnogi dioddefwyr gyda jesus hates you graffiti ar y wal