Wythnos Gwirfoddolwyr 1af – 7fed Mehefin

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle perffaith i ni ddiolch i’n tîm o wirfoddolwyr rhagorol! Hoffwn gyflwyno rhai o aelodau’r tîm i chi ynghyd â son rhywfaint am yr hyn maen nhw’n gwneud i’n cefnogi ni a’n cymunedau ar draws De Cymru.

 

Yn Cyflwyno Ali 

Mae gan bob un o’n gwirfoddolwyr gwahanol brofiadau bywyd, gan gynnwys Ali, a ddaeth i Dde Cymru ar ôl gadael ei gartref yn Iran.  Wedi iddo wasanaethu fel Diffoddwr Tân am bedair blynedd yn ei wlad enedigol, mae gwirfoddoli â ni’n rhoi mewnwelediad mawr iddo ynglŷn â GTADC.  Dechreuodd Ali wirfoddoli’r Hydref diwethaf ac mae wedi bod ynghlwm â gwahanol weithgareddau, gan gynnwys chwarae rôl ar gyfer sesiynau hyfforddi ac ymgysylltu ag aelodau’r cyhoedd mewn digwyddiadau cymunedol.  Hefyd, mae’n astudio’n galed i ennill fersiwn cyfartalog y DG o’i gymwysterau, ac felly, hoffwn ddweud ‘Diolch’ anferth i Ali am greu’r amser i wirfoddoli gyda ni, ac am wneud gwahaniaeth i’n cymunedau ar draws De Cymru.

 

Yn Cyflwyno Claire 

Dechreuodd Claire wirfoddoli gyda ni’r Hydref diwethaf a daeth â chyfoeth o brofiad yn ymgysylltu â phobl gyda hi – gan gynnwys gweithio mewn amgylchedd dalfa mewn carchar ac o fewn ysgolion, ynghyd â gwirfoddoli ag Ambiwlans Sant Ioan hefyd.  Yn amlwg, mae Claire yn teimlo’n gryf ynghylch gwneud gwahaniaeth yn ei chymuned leol ac, yn y pendraw, yn dymuno helpu cadw pobl yn ddiogel. Hoffwn ddweud ‘Diolch’ mawr i Claire am ddewis gwirfoddoli gyda ni, ac rydym wrth ein bodd ei bod mor awyddus i fod yn rhan o bethau ac ymhel â chyfleoedd newydd!

 

Yn Cyflwyno Lee

Fe wnaeth Lee wneud cais i ymuno fel gwirfoddolwr yn ystod y pandemig pan roedd mwyafrif ein gweithgareddau wedi’u gohirio dros dro. Wedi i ni ail-gychwyn, ro’n ni’n ffodus iawn i ganfod fod mwyafrif ein gwirfoddolwyr, gan gynnwys Lee, dal yn awyddus ac yn gallu ymrwymo. Gyda phrofiad blaenorol o wirfoddoli â’r Groes Goch Brydeinig, bellach mae’n gwirfoddoli gyda ni o ganlyniad i’w ddiddordeb yn yr hyn a wnawn. Mae gweithio’n llawn amser a dal i ganfod amser i wirfoddoli’n dipyn o gamp, ac felly hoffwn ddweud ‘Diolch’ mawr i Lee am greu’r amser i fod yn gysylltiedig â ni ac am fod yn gefnogwr gwych o’r hyn rydym yn gwneud.

 

Yn Cyflwyno Ryan

Bod â diddordeb byw wrth ddod i ddeall mwy am beth rydyn ni’n gwneud yn GTADC ddaeth â Ryan i fod yn wirfoddolwr gyda ni.  Gyda phrofiad blaenorol o wirfoddoli mewn amgylchedd ym myd y campau, a bellach yn gweithio tuag at gymhwyster mewn Gwasanaethau Cyhoeddus, mae’n amlwg fod Ryan am wneud gwahaniaeth.  Ers dechrau gyda ni yn Rhagfyr, mae e wedi bod ynghlwm ag amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys cefnogi ein timau mewn digwyddiadau recriwtio a chwarae rôl ar gyfer sesiynau hyfforddi.  Yn astudio llawn amser law yn llaw â gweithio ar fferm leol, mae Ryan yn berson prysur – ond mae dal amser ganddo i wirfoddoli gyda ni. Felly, hoffwn ddweud ‘Diolch’ anferth i Ryan am ein cefnogi ni a’r cymunedau rydym yn cydweithio â hwy.