Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi ymgyrch genedlaethol Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (CCPT). Bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal rhwng Dydd Llun y 18fed o Fai a’r 24ain o Fai a bydd yn codi ymwybyddiaeth o fanteision systemau taenellu i gadw pobl ac adeiladau’n fwy diogel rhag tân wrth i ni annog pobl i #MeddwlTaenellwr.

Tybir yn gyffredinol mai taenellwyr tân yw’r dull mwyaf effeithiol o atal tanau rhag ymledu yn y camau cychwynnol.

Canfu ymchwil gan CCPT a’r Rhwydwaith Chwistrellau Tân Cenedlaethol (RhChTC) fod systemau chwistrellu yn weithredol 94% o droeon felly maent yn ddibynadwy iawn a phan fyddant yn gweithredu maent yn diffodd neu’n atal y tân ar 99% o achlysuron. Y canlyniad yw bod taenellwyr yn lleihau anafiadau gan o leiaf 80%, yn lleihau difrod i eiddo gan 90% ac yn lleihau niwed i’r amgylchedd o ganlyniad i dân yn sylweddol.

Golyga hyn hefyd bod systemau chwistrellu yn helpu i ddiogelu bywydau diffoddwyr tân a dyna pam eu bod yn cael eu cefnogi’n llawn gan y gwasanaethau tân.

Yng Nghymru, ceir deddfwriaeth sy’n golygu bod yn rhaid i bob eiddo preswyl newydd gan gynnwys eiddo gofal (ynghyd ag ysgolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru) gynnwys taenellwyr. Mae NFCC wedi galw am ddeddfwriaeth debyg yn Lloegr a Gogledd Iwerddon oherwydd y manteision a ddaw yn sgil systemau taenellu.

Dywedodd Jason Evans, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, , “Mae tystiolaeth glir bod systemau taenellu’n effeithiol iawn o ran lleihau effeithiau tân ac maent yn darparu diogelwch cadarn fel rhan o becyn diogelwch tân. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymrwymo i leihau’r risg i’w gymunedau a bydd gosod systemau chwistrellu yn help wrth gyflawni hyn. ”

Mae Senedd Cymru yn cefnogi darpariaeth taenellwyr mewn eiddo’n llwyr. Ar ôl cyhoeddi ‘map cynllunio’r grŵp arbenigol ar ddiogelwch adeiladau ar gyfer gwella diogelwch tân mewn adeiladau uchel, cydnabu Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth leol, bwysigrwydd taenellwyr gan ddatgan bod tystiolaeth gadarn o blaid effeithiolrwydd taenellwyr i atal marwolaethau, felly rwyf wedi ymrwymo i ystyried sut y gallwn roi mwy o bwys ar ôl-ffitio mewn adeiladau uchel ar draws y sectorau.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch o ddweud bod rhai sefydliadau eisoes wedi gweithredu ar ddatganiad yr AS.

Dywedodd Andrew Lloyd, Rheolwr Cylchol a Chydymffurfiaeth Cartrefi Dinas Casnewydd:

“Yn dilyn y digwyddiadau trasig yn Grenfell yn 2017, buom yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, i leihau’r risg o dân a sicrhau bod ein trigolion yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

“Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi gosod systemau taenellu mewn fflatiau unigol ac ardaloedd cymunedol o bob un o’n tri adeilad tŵr uchel o fewn llai na mis ar ôl y trychineb.

“Yn ogystal â rhoi cysur ar unwaith bron i’n preswylwyr, roeddent hefyd yn cynnig tawelwch meddwl ychwanegol i ni. Mae diogelwch ein preswylwyr wedi bod yn flaenoriaeth gennym erioed, felly o wybod bod y systemau taenellu’n darparu mesur diogelwch tân ychwanegol, roedd gennym sicrwydd pellach i ni ein bod ni’n rhagori ar ein gofynion o ran rheoliadau diogelwch tân, yn hytrach na’u hateb yn unig.

“Gan fod y prosiect mor llwyddiannus, rydym wedi cynllunio rhaglen newydd ar gyfer ôl-ffitio systemau tebyg o fewn dros bum deg pump a mwy o gynlluniau llety sy gennym ar gyfer preswylwyr hŷn a fflatiau a adeiladwyd i’r diben hwnnw fel rhan o’n strategaeth dân.

“Rydym yn credu’n gryf fod taenellwyr yn fesur diogelwch tân dibynadwy a chost-effeithiol a all leihau’r risg o farwolaeth, anaf, difrod i eiddo a niwed i’n cymunedau’n sylweddol.”

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch dilynwch #MeddwlTaenellwr ar y cyfryngau cymdeithasol.