Tu ôl i’r Llenni: Gorsaf Dân ITV 20

Rydym wedi rhoi mynediad unigryw i gamerâu ITV i fynd y tu ôl i’r llenni yn un o’n gorsafoedd mwyaf a phrysuraf – Gorsaf Dân y Barri.

Bydd cyfres newydd tair rhan yn cael ei darlledu’r mis hwn, gan roi i wylwyr gipolwg ar rôl ymladdwr tân modern o safbwynt rhywun sy’n gweithio yn y byd hwnnw.

Am chwe mis, dilynodd camerâu hynt a helynt ‘Gorsaf Dân 20’ a bywydau ein hymladdwyr tân sy ‘ n gweithio yno.

Bydd pob pennod yn edrych ar linell amser digwyddiadau sy’n heriol o safbwynt corfforol ac emosiynol, wrth i’n criwiau ymateb i alwadau sy’n cynnwys digwyddiadau mawr, yn ogystal â digwyddiad yn ymwneud ag achub menyw oedrannus o lifft.

Bydd y gyfres yn ystyried gweithredoedd o ddewrder anhunanol wrth i’n criwiau ddangos pa mor hanfodol y gall gwaith tîm fod mewn sefyllfaoedd lle mae bywydau yn y fantol.

Dywedodd Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM: “Dyma’r tro cyntaf i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ganiatáu i gamerâu ffilmio y tu ôl i ‘ r llenni ac roedd hi’n bleser i weithio gyda ITV Cymru, yn enwedig gyda Nicola Hendy [cynhyrchydd] dros yr ychydig fisoedd diwethaf. ‘Rwy’n gallu dweud yn onest fy mod i’n teimlo’n emosiynol ac yn falch o fod yn Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Roedd y golygfeydd a gipiwyd yn atgyfnerthu’r hyn a wyddwn i’n barod, sef bod y bobl sy’n gweithio ar draws ein Gwasanaeth i gyd yn bobl hynod ymroddedig, yn bobl broffesiynol a gofalgar sy wedi ymrwymo i wneud De Cymru’n fwy diogel.”


Nicola Hendy, y cynhyrchydd a ffilmiodd y rhan fwyaf o’r gyfres. Ychwanegodd “Roedd hi’n fraint cael ein caniatáu i fynd y tu ôl i lenni Gorsaf Dân 20. Dilynais yr ymladdwyr tân ym mhob agwedd o’u swydd, gan gynnwys sefyllfaoedd anodd ac ysgafn. Roedd yn wych i gipio’r gwir angerdd sydd ganddynt dros ddiogelu eu cymuned.”
Dewch i wylio. Bydd Gorsaf Dân 20 yn cychwyn ar nos Lun yr 22ain o Orffennaf am 8yh ar ITV Cymru a bydd hefyd yn bosib i’w gwylio eto:
itv.com/cymrurhaglenni.