Troseddwyr newydd yn ennill sgiliau newydd yn y Rhaglen gyntaf i Gadetiaid Tân Ifanc yn y carchar

Am y tro cyntaf erioed mewn Canolfan Hyfforddi wedi’i Ddiogelu yn y DU, bydd pobl ifanc yng ngharchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc, yn ne Cymru a reolir gan G4SYOI, yn cymryd rhan yn y Rhaglen Cadetiaid Tân a lansiwyd ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC). 

Bydd y rhaglen, sy’n cael ei chwblhau o fewn Uned i Bobl Ifanc, yn  rhoi mewnwelediad allweddol i’r cyfranogwyr o ran gweithio gyda gwasanaeth argyfwng, yn ogystal â chanlyniadau Llosgi Tân Bwriadol ac Ymddygiad Anghymdeithasol.

Mae wyth cyfranogwr wedi cael eu hasesu a’u dewis i fod yn Gadetiaid. Byddant yn gwisgo Gwisg Cadetiaid y Gwasanaeth Tân ac Achub a bydd yn ofynnol iddynt fynychu ymarferion ymarferol rheolaidd a sesiynau damcaniaethau yn amserol gan dalu sylw priodol o ran pryd a gwedd gan ysgogi hunan-ddisgyblaeth.  Bydd y rhaglen yn arwain at seremoni raddio a nifer o gymwysterau Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Dywedodd Jason Evans, Pennaeth Uned y Bobl Ifanc yng Ngharchar Ei Mawrhydi Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc: “Gobeithio y bydd lansio’r rhaglen hon yn galluogi’r sawl sy’n cymryd rhan ynddi i atgyfnerthu eu cysylltiadau â chymunedau y tu allan i’r Sefydliad Troseddwyr Ifanc, gan ddarparu cyfle iddynt adeiladu ar sgiliau personol allweddol.

“Mae ein staff wedi briffio’r bobl ifanc ynghylch disgwyliadau a gofynion y rhaglen hon, a sut byddant yn elwa o ganlyniad i’r cwrs hyfforddi ac mae’r diddordeb y mae’r cwrs wedi ei ennyn hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol.

“Byddwn yn lansio’r rhaglen gyda dosbarth sy’n cynnwys ychydig o dan deg o bobl, er mwyn sicrhau bod y cwrs yn cael ei gynnal yn effeithiol gan esgor ar y canlyniadau gorau posib i’r bobl ifanc

Mae llawer o bobl ifanc o fewn y system gyfiawnder troseddol wedi profi dylanwadau negyddol sy’n deillio o weithgarwch sy’n ymwneud â gangiau. Mae’r cwrs yn anelu at eu haddysgu am bwysigrwydd gwaith tîm a chreu prosiectau, gan roi cyfle iddynt ddatblygu eu hyder a sgiliau cyfathrebu.

Arweinir y rhaglen gan ymarferwyr cymwys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Bydd unigolyn o’r Uned Pobl ifanc yn bresennol bob amser yn ystod y rhaglen gan ganiatau i’r ymarferwyr creu cydberthnasau cadarnhaol ac ymddiriedaeth gyda’r bobl ifanc ar y cwrs.

Dywedodd Nicola Wheten, Rheolwraig Pobl ifanc a Gwirfoddoli Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:“Mae Tîm Pobl Ifanc Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn falch iawn o gyflwyno’r Gangen Gadetiaid Tân cyntaf erioed i’w chynnal o fewn Carchar Ei Mawrhydi.

“Fel Gwasanaeth, anelwn at fod mor gynhwysol â phosib, gan greu cyfleoedd i bobl ifanc a chyflwyno newid drwy ymyrraeth gadarnhaol. Mae pobl ifanc yn elwa o gael eu hannog a’u cynnwys, a byddant yn sicr yn profi hyn o ganlyniad i’r Rhaglen Cadetiaid Tân. Mae hen ddywediad sy’n honni mai cydweithio sy’n arwain at wireddu breuddwydion, a byddwn yn creu teulu newydd o Gadetiaid yma. Rydym yn gobeithio y byddant yn teimlo’n fwy hyderus wrth wneud penderfyniadau pwysig bywyd yn y dyfodol agos.”

Fel partneriaeth, mae Carchar Ei Mawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n credu yn credu y bydd y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn gwella o ran eu hymddygiad a rhyngweithio cymdeithasol ag aelodau o staff yn ogystal â’u cyfoedion. Mae gwella hyder a sgiliau bywyd allweddol yn gamau allweddol wrth geisio torri troell ddieflig ail-droseddu, drwy eu cynorthwyo mewn adsefydlu a phwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned.

Gydag arweiniad a chyfarwyddyd cadarnhaol gan oedolion, mae’r cwrs hwn yn anelu at ddymchwel ystrydebu negyddol am awdurdod a gallai ysbrydoli mwy o droseddwyr ifanc wireddu eu breuddwydion yn y dyfodol.