Tîm Troseddau Tân y Gwasanaeth yn gweithio’n ddiflino gyda’n partneriaid i leihau’r nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â llosgi bwriadol o fewn ein cymunedau.

Tîm Troseddau Tân y Gwasanaeth yn gweithio’n ddiflino gyda’n partneriaid i leihau’r nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â llosgi bwriadol o fewn ein cymunedau.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymwybodol o gyfres o danau bin bwriadol tybiedig yn ardal y Fenni dros yr wythnosau diwethaf, a digwyddodd dau ohonynt yng Ngorsaf Tân ac Achub y Fenni.

Mae Tîm Troseddau Tân y Gwasanaeth yn gweithio’n ddiflino gyda’n partneriaid i leihau’r nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig â llosgi bwriadol o fewn ein cymunedau.

Mae tanau bwriadol yn beryglus dros ben a gallant ledaenu’n gyflym iawn gan beryglu bywydau.  Gall y tanau hefyd gynhyrchu mwg trwchus sy’n gallu cynyddu’r risg i’r henoed a phobl sy’n agored i niwed â chyflyrau meddygol. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi tynnu sylw at beryglon mwg a achoswyd gan danau glaswellt i ddioddefwyr COVID-19 a allai fod yn byw gerllaw.

Mae tanau bwriadol yn beryglus, a gallai gosod y tanau hyn ger safleoedd gwasanaethau brys megis Gorsafoedd Tân achosi diffrod i gyfleusterau critigol.

  

Dywedodd Paul Mason, Pennaeth Troseddau Tân: ‘Gall dympio un neu ddau o fagiau sbwriel neu ddarn o ddodrefn ddenu mwy – mae cost i ni i gyd, mae’n gwastraffu adnoddau gwasanaethau brys, achosi difrod amgylcheddol, colli bywyd gwyllt a chreu risg i eiddo a bywyd, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng cenedlaethol. Os byddwch chi’n dewis dympio sbwriel gallech fod yn rhoi tanwydd ar y tân ac yn dewis cyfrannu at drasiedi ill dau. Cymerwch gyfrifoldeb a sicrhewch fod eich gwastraff yn cael ei waredu’n gywir. Peidiwch â rhoi tanwydd ar y tân.”

Anogwn unrhyw un sydd â gwybodaeth am danau bwriadol tybiedig, neu’n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 2100013253 neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Os gwelwch chi dân, neu unrhyw un yn cychwyn tân, ffoniwch 999 ar unwaith.