Yr hanes y tu ôl i’r daith o’r Twnnel i’r Tyrau

Mae digwyddiadau trist dinas Efrog Newydd yr 11 o Fedi 2001 yn gof ingol i lawer o bobl ym mhob rhan o’r byd, ond roedd hanes un dyn yn ysbrydoliaeth wirioneddol i ymladdwr tân o Gaerdydd.

Ar yr 11eg o Fedi 2001, roedd Stephen Gerard Siller, ymladdwr tân gydag Adran Dân Yr Efrog Newydd ar ei ffordd  i chwarae golff gyda’i frawd. Nid oedd ar ddyletswydd ar y pryd a chlywodd y newyddion am awyren yn taro Tŵr gogleddol Canolfan Fasnach y Byd ar ei  sganiwr. Gan newid ei gynlluniau’n syth, gyrrodd Stephen i Dwnnel Brooklyn Battery oedd ar gau am resymau yn ymwneud â diogelwch, a chlymodd 60lbs o offer ar ei gefn i’w gefn a rhedodd i’r Twin Towers i gynorthwyo’i gydweithwyr yn y gwasanaethau brys.

Cyflwynodd Stephen yr aberth fwyaf posib, ac yn drist iawn collodd ei fywyd yn ystod digwyddiadau’r diwrnod hwnnw. Yn dilyn ei ymddygiad arwrol a’i ddewrder canmoladwy, sefydlodd ei deulu Sefydliad Stephen Siller o’r Twnnel i’r Tyrau, er anrhydedd i’r aberth Stephen a phersonél milwrol, gwasanaethau brys ac ymatebwyr brys. Cynhelir taith gerdded/rhedeg bob blwyddyn yn yr Efrog Newydd   i anrhydeddu camau olaf Stephen. Mae’r daith hon yn cael ei chynnwys erbyn hyn ymhlith rif deithiau rhedeg 5 cilomedr America

Wedi’i ysbrydoli gan hanes Stephen ac ymdrechion codi arian Sefydliad Stephen Siller Twnnel i’r Tyrrau yn yr Unol Daleithiau, penderfynodd Kevin Summerhayes, ymladdwr tân o Orsaf Ganol Caerdydd ddod â’r daith gerdded/rhedeg 5 cilomedr ar draws y dŵr i Gymru.

Dywedodd: ‘Bydd yn fraint ac yn anrhydedd gennym fel tîm i weld y ras yn digwydd ar dir Cymru am yr ail dro. Dylid cofio am byth diffyg hunanoldeb llwyr yr ymatebwyr brys, gan gynnwys ymladdwr tân Stephen Siller ei hun, nad oedd ar ddyletswydd ar y pryd a dyma ffordd i ni ddangos ein gwerthfawrogiad am ymroddiad ac ymrwymiad ein gwasanaethau brys.’

Yn 2018 cymerodd dros 400 o bobl ran gan godi dros £12,000. Y gobaith eleni yw gweld cynnydd sylweddol o ran y ddau rif hyn. Bydd a Sefydliad Stephen Siller Twnnel i’r Tyrrau.

Bydd taith gerdded/rhedeg 5 cilomedr Stephen Siller o’r Twnnel i’r Tyrrau yn digwydd am yr ail flwyddyn Ddydd Sul yr 22ain o Fedi 2019 ym Mae Caerdydd gyda Fordthorne and Volvo Cars Caerdydd yn falch o’i noddi. Trefnir bore llawn o adloniant yn fwynhad i’r teulu, gan gynnwys troellwr i adlonni’r dorf cyn ac ar ôl i’r daith gychwyn. Mae’r daith gerdded/rhedeg elusennol yn agored i bobl o bob oed ac fe’i cynhelir ar y cyd â digwyddiad unigryw wrth i Wasanaeth Tân ac Achub, Heddlu De Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Cymru gynnal eu penwythnos 999 ym Mae Caerdydd.

Ceir manylion llawn am y digwyddiad a sut i gofrestru ar gyfer cymryd yma: https://www.cardifftunnel2towers.com/register