Taith y Car Llusg Gorsaf Dân ac Achub Aberbargod

Bydd Diffoddwyr Tân Ar Alwad o Orsaf Dân ac Achub Aberbargod yn lledaenu hwyl yr ŵyl gyda’u Taith y Car Llusg y Nadolig ym mis Rhagfyr!

Gyda’u sled eu hunain, bydd y criw yn ymweld â chymunedau cyfagos ac yn dosbarthu anrhegion i blant.

Bydd y sled yn stopio yn y lleoliadau canlynol:

Dydd Llun 19 Rhagfyr 2022

  • 4yp – 4:45yp, New Tredegar – Cross Street, Elliots Town, New Tredegar, NP24 6EG
  • 5yp – 5:45yp, Bargoed – Bargoed Park, Via Moorland Road, Bargoed, CF81 8UH
  • 6yh – 6:45yh, Gilfach – Bowls Pavillion Car Park, Maes Y Graig Street, Bargoed, CF81 8JE
  • 7yh – 7:45yh, Gelligaer – Sandward House, Heol Penallta, Gelligaer, Hengoed, CF82 8FA
  • 8yh – 8:45yh, Ystrad Mynach – Oakfield Street (near to Valley Vets), Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7AF

Dydd Mawrth 20 Rhagfyr 2022

  • 4yp – 4:45yp, Blackwood – Wesley Road, Blackwood, NP12 1PP
  • 5yp – 5:45yp, Cefn Forest – Showfield, Blackwood, NP12 1HQ
  • 6yh – 6:45yh, Markham – Pantycefn Road, Markham, Blackwood, NP12 0QX
  • 7yh – 7:45yh, Aberbargoed – Abergoed Playing Fields (The Hanger), CF81 9DN
  • 8yh – 8:25yh, Playing fields adjacent to Woodfield Terrace, Hengoed, CF82 8A
  • 8:30yh – 9yh, Fleur-de-lys – Glan-yr-afon Lane, Fleur-de-lys, NP12 3XS

Nodwch fod yr holl amseroedd yn frasamcanion – bydd diweddariadau’n cael eu postio i Dudalen Facebook Gorsaf Dân ac Achub Aberbargod.

Yn bwriadu mynychu?

  • Byddwch yn barchus tuag at ein criwiau ac eraill sy’n mynychu’r digwyddiad
  • Cadwch yr ardal mor glir â phosib nes bod y criw yn eu lle – er eich diogelwch chi a ni!
  • Gwisgwch ar gyfer y tywydd!
  • Byddwch yn barchus wrth dynnu lluniau a fideos
  • Peidiwch ag anghofio tagio ni mewn unrhyw luniau neu fideos ar Twitter | Facebook | Instagram

Rydym yn dal derbyn rhoddion o flychau dethol i ddosbarthu yn ein arosfannau. Gellir gadael unrhyw roddion yng Ngorsaf Dân ac Achub Aberbargod, St. Margarets Way, Aberbargoed CF81 9GB.

Os ydych chi’n fusnes neu’n grŵp lleol a bod gennych chi ddiddordeb mewn gofod hysbysebu ar y sled, cysylltwch â ni!