Y bore yma (Dydd Mercher yr 2il o Hydref 2019) rydym yn gweithio gyda GoSafe, sefydliad anafiadau ar y ffyrdd, mewn partneriaeth â Heddlu Gwent a Dinas Casnewydd, i fynd i’r afael â blaenoriaethau o ran gyrru diogel a throseddau lleol. Bydd ymgyrch ‘Surround the Town’ yn cael ei chynnal ar draws Casnewydd gyda nifer o dimau yn gweithio ar draws y ddinas.

Drwy weithio mewn partneriaeth agos nod yr ymgyrch hon yw cefnogi pobl Casnewydd a sicrhau eu bod yn gallu byw, gweithio ac ymweld mewn amgylchedd diogel. I wneud hyn bydd yr ymgyrch ar y cyd yn cwmpasu nifer o fentrau sy’n ymdrin â throseddau moduro, parcio a gorfodi lleol, ymwybyddiaeth o wrthdrawiadau a chyflymder, ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau’n ymwneud â chyffuriau a grwpiau troseddau cyfundrefnol.

Bydd yr ymgyrch yn cynnwys gweithgareddau allweddol amrywiol, gan gynnwys:

  • Stopio ceir yn rhagweithiol gan yr heddlu, gan dargedu meysydd sy’n achosi pryder o amgylch y ddinas.
  • Ymgysylltu â phreswylwyr ynglŷn â thai/ sbwriel/cerbydau wedi’u gadael.
  • Gorfodaeth o ganlyniad i oryrru, ffonau symudol, gwregysau diogelwch a throseddau eraill yn ymwneud â thraffig ar y ffyrdd.
  • Ymwybyddiaeth gyrwyr o gwmpas beicwyr a diogelwch ar y ffyrdd.
  • Gorfodi yn ymwneud â pharcio a gorfodi gwastraff yr amgylchedd.
  • Blaenoriaethau plismona lleol gan gynnwys; beiciau oddi ar y ffordd, ymddygiad gwrthgymdeithasol, defnyddio/cyflenwi cyffuriau a grwpiau troseddau cyfundrefnol.

Dywedodd Stuart Townsend Rheolwr Gorsaf Lleihau Traffig ar y Ffyrdd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru; “Mae hwn yn gyfle gwych i weithio mewn partneriaeth i leihau digwyddiadau ar ein ffyrdd.

“Mae ein timau tân yn defnyddio addysg ac atal a byddant ar gael i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau ar holl faterion sy’n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd, gan gwmpasu amlygu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r 5 angheuol sy’n cynnwys gyrru ar ôl yfed/cymryd cyffuriau, lleihau cyflymder, gyrru’n ddiofal a gwisgo gwregys diogelwch. Mae llawer gormod o bobl yn cael eu hanafu’n ddifrifol a’u lladd mewn digwyddiadau’n ymwneud â gyrru, felly mae unrhyw beth y gallwn ei wneud sy’n cyfleu’r neges am fod yn ddiogel, yn gall ac yn ystyriol o ddefnyddwyr ffyrdd eraill yn hollbwysig.

“Byddwn ni’n ymgysylltu â beicwyr a gyrwyr drwy godi ymwybyddiaeth i leihau nifer y damweiniau a achosir drwy beidio â chaniatáu digon o le wrth oddiweddyd. Byddwn hefyd yn rhoi car crasio yng nghanolfan siopa Rhodfa’r Mynaich, i ymgysylltu â siopwyr ynglŷn â sut mae camau syml i gadw’n ddiogel ar y ffordd yn gallu achub bywydau yn y pen draw.”

Yn ogystal â’r cerbyd yng nghanolfan siopa Rhodfa Friar, bydd Ditectifs Gwrthdrawiadau ar y Ffyrdd Heddlu Gwent yn ymweld â chanol y ddinas i gadarnhau’r neges am ganlyniadau gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. Bydd myfyrwyr yng nghampws Casnewydd Prifysgol De Cymru hefyd yn cael y cyfle i weld ffilmiau diogelwch ar y ffyrdd drwy rithwirioneddol, drwy garedigrwydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Dywedodd Sarsiant Jason Williams Cydlynydd GoSafe gyda Heddlu Gwent; “Mae ‘Surround the Town’ yn fenter sydd â’r nod o wella bywydau pawb sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â Chasnewydd. Mae gan bawb hawl i ddefnyddio’r ffyrdd yn ddiogel a thrwy gydweithio fel partneriaid gobeithio y bydd ein negeseuon yn gwneud gwahaniaeth, gan wneud Casnewydd yn lle mwy diogel i bawb.

“Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr ffyrdd yn cydymffurfio â therfynau cyflymder, yn sicrhau eu bod yn gwisgo gwregys diogelwch ac nad ydynt yn defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru. Mae’r ymgyrch hon yn targedu’r lleiafrif nad ydynt yn gwneud hynny. Drwy eu haddysgu am y peryglon a’r canlyniadau gobeithio gweld cynnydd o ran cydymffurfiaeth.”

Mae GoSafe, Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd yn cydweithredu. Bydd ymgyrch ‘Surround the Town’ yn weladwy ar draws y ddinas ar adegau gwahanol o’r dydd. ”

Bydd swyddogion gorfodi Cyngor Dinas Casnewydd hefyd allan i edrych ar reoli gwastraff, sbwriel a pharcio. Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Casnewydd; “Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn falch o allu cefnogi menter ‘Surround the Town’ gyda Heddlu Gwent a’r Gwasanaeth Tân.

“Bydd staff Gwasanaethau’r ddinas yn canolbwyntio ar wirio bod busnesau lleol yn cydymffurfio â rheoliadau gwastraff a sicrhau nad yw gwastraff anghyfreithlon yn cael ei ddympio. Byddant hefyd yn cynghori preswylwyr sy’n byw yn y ddinas am reoli eu gwastraff yn ogystal â darparu gwasanaethau glanhau yng nghanol y ddinas.

“Bydd swyddogion Gorfodi Parcio Sifil hefyd i’w gweld yng nghanol y dref gan gyflawni eu dyletswyddau i sicrhau bod y ddinas yn lle diogel i gerddwyr a gyrrwyr.”

Mae ymgyrch ‘Surround the Town’ yn anelu at leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar strydoedd a ffyrdd Casnewydd, gan fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar y ddinas, drwy un diwrnod o weithredu a fydd yn dangos yr hyn y mae’r gwasanaethau brys a’n partneriaid yn mynd i’r afael ag ef bob dydd wrth addysgu’r cyhoedd.