Siarter ‘Dying to Work’

Mae Gwasanaeth tân ac Achub De Cymru yn falch o gefnogi’r ymgyrch Dying to Work drwy lofnodi Siarter Cyngres yr Undebau Llafur. Mae’r ymgyrch yn galw am wneud salwch terfynol yn ‘nodwedd warchodedig’ fel bod pob gweithiwr sy’n brwydro yn erbyn salwch terfynol yn cael cyfnod gwarchodedig lle na ellid eu diswyddo o ganlyniad i’w cyflwr.

Mae’r siarter hwn yn nodi ffordd gytûn y bydd ein gweithwyr yn cael eu cefnogi, eu diogelu a’u harwain trwy gydol eu cyflogaeth, yn dilyn diagnosis terfynol.

  • Rydym yn cydnabod bod angen cefnogaeth a dealltwriaeth ar rywun â salwch terfynol ac nid straen a gofid ychwanegol y gellid ei osgoi.
  • Bydd gweithwyr â salwch terfynol yn dawel eu meddwl o wybod y byddwn yn eu cefnogi yn dilyn eu diagnosis ac rydym yn cydnabod y gall gwaith diogel a rhesymol eu helpu i gadw eu hurddas, bod yn ffordd werthfawr o dynnu eu sylw ac y gall fod yn therapiwtig ynddo’i hun.
  • Byddwn yn rhoi sicrwydd o waith i’n gweithwyr, yn tawelu eu meddwl ac yn rhoi’r hawl iddynt ddewis y camau gorau iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd sy’n eu helpu drwy’r cyfnod heriol hwn ag urddas a heb golli gormod o arian.
  • Rydym yn cefnogi ymgyrch ‘Dying to Work’ y TUC fel bod gan yr holl weithwyr sydd â salwch terfynol y diogelwch digonol o ran eu cyflogaeth a bod eu buddion marw yn y swydd wedi’u diogelu ar gyfer yr anwyliaid y maent yn eu gadael ar eu hôl.

Ar yr 11eg o Hydref, daeth cynrychiolwyr o’r saith sefydliad dan sylw ynghyd ym Mhencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i lofnodi’r siarter sy’n cefnogi ymgyrch Dying to Work. Y cynrychiolwyr oedd: Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru; Alex Psaila, Undeb y Brigadau Tân; Kay Parsons, Unison; Derek Wood, Undeb y GMB; Lesley Davies, Unite; Dave King, Cymdeithas y Gwasanaethau Tân ac Achub a Richard Prendergast, Prospect Union.

Mater sy’n achosi Pryder Cynyddol:

  • Wrth i oedran ymddeol gynyddu, mae Cancer Research UK yn rhagamcanu y bydd 1 o bob 3 person yn cael diagnosis canser, a bydd mwy o bobl yn cael diagnosis terfynol yn ystod eu bywyd gwaith.
  • Ar hyn o bryd mae 1 mewn 10 o achosion canser newydd yn cael eu darganfod mewn pobl o dan 50 oed (dros 33 mil o achosion y flwyddyn)
  • Dengys arolwg mewnol McMillan fod 37% o gleifion canser wedi ‘profi gwahaniaethu’ ar ôl iddynt ddychwelyd i’r gwaith.

Mae gweithio yn y gwasanaethau argyfwng yn alwedigaeth heriol ac ymestynnol iawn ac mae’n bwysig ein bod i gyd yn gofalu am ein gilydd. Mae cael gwybod eich bod yn mynd i farw o ganlyniad i glefyd nad oes modd ei wella na’i drin yn effeithiol ac mai dim ond misoedd neu flynyddoedd sydd gennych i fyw, yn ddigwyddiad trawmatig y bydd pawb yn ymateb yn wahanol iddi. Gall natur y salwch olygu nad yw’r unigolyn yn gallu gweithio eto. Mewn achosion eraill, gall unigolyn benderfynu nad yw am weithio mwyach. Fodd bynnag, mae llawer o weithwyr sydd â diagnosis terfynol yn penderfynu eu bod am barhau i weithio gyhyd ag y gallant, naill ai am fod angen y sicrwydd ariannol arnynt neu am eu bod yn gweld bod eu gwaith yn gallu cael effaith gadarnhaol arnynt. Pa ddewis bynnag y bydd unigolyn yn ei wneud, byddwn yn eu cefnogi fel cyflogwr. Dywedodd Prif Swyddog Tân, Huw Jakeway QFSM:

“Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mae gennym ddiwylliant tîm agos iawn o helpu a chefnogi ein gilydd; mae arwyddo Siarter Dying to Work y TUC gyda’n cyrff cynrychioliadol heddiw yn arwydd clir y byddwn bob amser yn gofalu am ein pobl ac rydym yno i’w cefnogi ar adegau anodd.”

Fel Gwasanaeth, mae gennym lawer o rwydweithiau cefnogi gwahanol ac mae cefnogi’r ymgyrch hon yn ychwanegiad i’w groesawu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.dyingtowork.co.uk