Rydym yn parhau i ymateb i’r cymunedau mae Storm Eunice yn effeithio

Mae ein Canolfan Reoli Tân ar y Cyd yn derbyn nifer o alwadau sy’n ymwneud â’r tywydd gan gynnwys perygl o falurion yn hedfan, difrod i adeiladau a chartrefi, coed a changhennau’n cwympo ac amhariadau ar drafnidiaeth.

Rydym yn gweithio’n gydag awdurdodau lleol ac ein partneriaid i ddarparu ymateb brys ar draws De Cymru.

Yn ystod y tywydd garw, rydym yn cynghori’r cyhoedd i aros yn eu cartrefi oni bai bod hi’n gwbl angenrheidiol, gwneud teithiau hanfodol yn unig a chadw’n glir o ardaloedd peryglus megis dyfrffyrdd a choetiroedd.

Hoffem ddiolch i’r cyhoedd ymlaen llaw am eu cydweithrediad ac rydym eisiau sicrhau’r cymunedau ein bod yno ar eu cyfer os bydd angen. Rydym yn deall bod yr aflonyddwch wedi bod yn sylweddol a bydd llawer o bobl yn delio â chanlyniad y storm ddinistriol.

Tra bod y sefyllfa’n parhau, sicrhewch rydych chi’n cadw’n gyfredol ag adroddiadau tywydd a pharchu’r rhybuddion yn eich ardal gan yr Heddlu, y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru.