Rhybudd diogelwch am dywydd poeth dŵr a thân

Gan fod rhagolygon am dywydd eithriadol o sych a chynnes ar gyfer y dyddiau nesaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn annog aelodau’r cyhoedd i ymddwyn yn gyfrifol.

Gyda rhagolygon y bydd y tymheredd yn codi i fwy na 30 gradd canradd ar y 18fed a’r 19eg o Orffennaf a thu hwnt i hynny o bosib, mae’r Gwasanaeth yn gofyn i’r cyhoedd yn Ne Cymru feddwl ddwywaith cyn gwneud unrhyw beth sy’n ymwneud â fflam noeth neu ddŵr agored.

Dywedodd St John Towell, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Y materion allweddol i ni dros y dyddiau nesaf yw’r amgylchiadau poeth, sych gyda gwyntoedd cymedrol i gryf posib dros y tir uwch a allai gynyddu’r risg o danau gwyllt ar draws yr ardal. Mae tanau’n dinistrio cefn gwlad ac yn aml yn cael eu hachosi gan ddiofalwch. Rydym yn annog pobl i fwynhau’r cefn gwlad yn ddiogel.

“Yn anffodus, rydyn ni’n gweld digwyddiadau trasig o foddi damweiniol pan mae’r tywydd yn gynhesach, wrth i bobl geisio oeri mewn dŵr agored. Rydym yn annog pobl i beidio byth â chael eu temtio i neidio i mewn i unrhyw ddŵr agored neu nofio mewn dŵr agored heblaw am ddigwyddiadau a drefnwyd – gallai fod yn gynnes yn yr awyr agored ond yn aml iawn nid yw’r dŵr yr un fath.”

Rydym yn annog y cyhoedd i ddilyn y cyngor diogelwch isod:

Mae’r tywydd ar hyn o bryd yn golygu bod risg uchel o danau damweiniol a thanau gwyllt, felly rydym yn cynghori:

  • Os ydych chi yn yr awyr agored – mae risg uchel o danau damweiniol o ganlyniad i farbeciws, sigaréts ynghyn, poteli gwydr ac ati, felly cofiwch gael gwared ar y deunyddiau hyn yn gyfrifol.
  • Peidiwch â llosgi unrhyw wastraff, er enghraifft sbwriel neu wastraff o’rardd – defnyddiwch wasanaethau casglu gwastraff, ailgylchu a chompostio awdurdodau lleol yn lle hynny.
  • Rydym yn argymell diffodd offer trydanol nad ydynt yn cael eu defnyddio. Yn ogystal â helpu i gadw eich tŷ yn oerach, mae hefyd yn atal unrhyw offer trydanol rhag gorboethi. Ein cyngor bob amser yw peidio byth â gorlwytho socedi, trwy gofio rhoi un plwg yn unig ym mhob soced.
  • Os gwelwch dân neu unrhyw un yn cynnau tân, ffoniwch 999 fel y gellir mynd i’r afael ag ef cyn gynted â phosibl.

Parchwch y dŵr, os ydych chi’n ceisio oeri o amgylch dyfrffyrdd:

  • Gall dŵr fod yn oer o hyd yn ystod yr haf, felly byddwch yn ofalus rhag ofn i chi gael sioc dŵr oer.
  • Mae lefelau dŵr yn is o ganlyniad i’r cyfnod o dywydd sych parhaus, felly peidiwch â phlymio i ddŵr nad ydych chi’n gyfarwydd ag ef.
  • Fel arfer nid yw cronfeydd dŵr a chwareli yn lleoedd diogel i nofio.
  • Os ydych mewn perygl, dylech chi arnofio i fyw, peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr i achub rhywun neu anifail anwes – ffoniwch 999 ar unwaith os oes perygl i fywyd.
  • Os bydd perygl yn y dŵr, mewn lleoliadau mewndirol – gofynnwch am y Gwasanaeth Tân. Ar yr arfordir – gofynnwch am Wylwyr y Glannau.

I gael mwy o wybodaeth am ddiogelwch dŵr, ewch i’n tudalen we diogelwch dŵr.