Perchnogion siop tecawê yng Nghaerdydd yn cael gorchymyn i dalu dros £21,000 a dedfrydau a ohiriwyd yn y carchar

Perchnogion siop tecawê yng Nghaerdydd yn cael gorchymyn i dalu dros £21,000 a dedfrydau a ohiriwyd yn y carchar

Perchnogion siop tecawê yng Nghaerdydd yn cael gorchymyn i dalu dros £21,000 a dedfrydau a ohiriwyd yn y carchar yn dilyn troseddau diogelwch tân.

Ymddangosodd perchnogion Marmaris Kebabs yn Stryd Caroline o flaen Llys y Goron Caerdydd ar yr 8fed o Chwefror 2021 yn dilyn sawl achos o dorri’r Gorchymyn Diogelwch Tân, sydd ar waith i amddiffyn rhag y risg o dân.

Yn ystod arolygiad arferol gan Swyddogion Diogelwch Tân Busnes Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), darganfu swyddogion arolygu nifer o achosion difrifol o dorri rheolau diogelwch tân. Roedd cyfanswm o ddeg trosedd yn groes i’r gorchymyn gan gynnwys dim asesiadau risg tân, llwybrau dianc annigonol heb oleuadau argyfwng, dim larymau tân, grisiau caeëdig ac absenoldeb drws i storfa oedd yn dal eitemau llosgadwy.

Roedd swyddogion tân o’r farn bod risg i fywyd ar ddigwydd. Gan fod y risg hwnnw mor ddifrifol cyflwynwyd Hysbysiad Gwahardd ar y 9fed o Ebrill 2019 yn atal defnyddio lloriau uchaf yr eiddo at ddibenion preswyl ar unwaith. Rhoddwyd Hysbysiad Gorfodi hefyd yn manylu ar y methiannau yr oedd angen eu cywiro o fewn 180 diwrnod i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel rhag y risg o dân.

Ar y 4ydd o Fehefin 2019, ymwelodd swyddogion arolygu â’r eiddo yn ddirybudd gan ddarganfod ei fod yn dal i gael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl, yn groes i delerau’r Hysbysiad Gwahardd.  Ar ôl i’r Hysbysiad Gorfodi ddod i ben ar y 9fed o Hydref 2019, ymwelodd swyddogion â’r eiddo eto gan ddarganfod nad oedd unrhyw waith adfer wedi’i wneud a bod yr Hysbysiad Gwahardd i gael ei dorri o hyd gyda’r lloriau uchaf yn cael eu defnyddio at ddibenion preswyl.

Plediodd y ddau berchennog Marmaris Kebabs yn euog i chwe chyhuddiad o dan droseddau yn erbyn y Gorchymyn Diogelwch Tân. Cyflwynwyd y diffynyddion i Lys y Goron Caerdydd i gael eu dedfrydu gan fod y Barnwr Rhanbarth o’r farn bod pwerau dedfrydu’r Llys Ynadon yn annigonol o ystyried difrifoldeb y troseddau.

Cydnabu’r Barnwr Preswyl dros dro HHJ Tracey Lloyd-Clarke fod torri rheoliadau tân yn achosi risg ddifrifol i fywyd gan ddatgan; ‘Mae’r gyfraith wedi’i diystyru mewn ffordd amlwg a gwarthus… achosion difrifol o dorri rheoliadau a gynlluniwyd i amddiffyn pobl ar y safle… rhag y risg o dân.”

Cafodd y ddau berchennog o Gasnewydd ddirwy o £12,000 a gorchmynnwyd iddynt hefyd dalu costau llawn o dros £9,000 i Awdurdod Tân ac Achub De Cymru o fewn 12 mis. Yn ogystal â hyn cafodd un diffynnydd ddedfryd o 12 mis yn y carchar a ohiriwyd am ddwy flynedd, 180 awr o waith di-dâl a chyrffyw rhwng 7yh a 6yb bob nos am y pedwar mis nesaf i’w fonitro’n electronig.

Croesawodd Owen Jayne, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes GTADC, ddedfryd y Llys gan ddweud, “Byddwn yn annog y rhai sy’n gyfrifol am eiddo o’r fath, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, i gynnal asesiad risg tân addas a digonol i benderfynu a ydynt yn cydymffurfio â’r Gorchymyn Diogelwch Tân. Mae’r Gwasanaeth yn awyddus i weithio gydag aelodau o’r gymuned fusnes i sicrhau bod lleoedd gwaith yn ddiogel i’w staff ac aelodau’r cyhoedd ill dau.  Mae gennym dîm ymgysylltu busnes pwrpasol a’i ddiben yw cynorthwyo busnesau ac rwy’n eich annog i gysylltu ag Adran Diogelwch Tân GTADC am gyngor a gwybodaeth.”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi ymrwymo i wneud De Cymru yn lle diogelach i fyw, ymweld â hi a gweithio ynddo a rhan o’i rôl yw gorfodi Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn ogystal â sicrhau bod pob safle busnes a man cyhoeddus yn cydymffurfio ag ef.  Mae’r gorchymyn yn berthnasol i bob eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr a rhaid i berson cyfrifol gynnal asesiad risg diogelwch tân, yn ogystal â gweithredu a chynnal cynllun rheoli tân.

I gael rhagor o wybodaeth am Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 a gwybodaeth am sut i gysylltu, ewch i   www.decymru-tan.gov.uk.