Pencampwyr Ailgylchu Bagiwch e a Banciwch e 2024

Pencampwyr Ailgylchu Bagiwch e a Banciwch e 2024

Mae Elusen y Diffoddwyr Tân wedi cynnal cynllun ailgylchu dillad ‘Bagiwch e a Banciwch e’ yn llwyddiannus ers 2009, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Tân ac Achub a sefydliadau eraill ar draws y DU. Fel arfer, bydd y rhoddion yn cael eu gwerthu mewn gwledydd is-ddatblygedig, ac mae’r incwm a gynhyrchwyd o ganlyniad i ailgylchu dillad yn helpu Elusen y Diffoddwyr Tân i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles i deulu tân y DU.

Mae’r Elusen wedi cyflawni llwyddiant gorchestol eleni, gydag ymgyrch Ionawr yn unig yn codi dros £100,000 – mae hynny’n 487 tunnell o ddillad rhodd ar draws y DU.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cyfrannu’n sylweddol i’r llwyddiant hwn eleni gyda dwy Orsaf Dân o fewn y tair fwyaf ar draws y DG.

Pencampwr y DU cyfan eleni yw Gorsaf Dân Cwmbrân a gymrodd Tlws RAG Cymru yn ogystal â’r DU cyfan, ar ôl casglu 4,460kg o ddillad – gan godi £981.

Daeth Gorsaf Dân New Inn yn drydydd ar gyfer y DG gyfan, gan gasglu 4,050kg o ddillad a gododd £891.

 

Dywedodd Rheolwr Gwerthiant Elusen y Diffoddwyr Tân, Kevin Biles:

“Rwyf ar ben fy nigon gyda’r gefnogaeth rydym wedi’i dderbyn eleni am ein hymgyrch ‘Bagiwch e Banciwch e’; gan ein cymuned gwasanaeth tân ac aelodau’r cyhoedd ill dau. Mae’r cyfanswm yn ganlyniad i’ch holl waith caled a bydd yr arian a godwyd yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

  

Ry’n ni am ddiolch i’r Gwasanaeth a’r gymuned, nid yn unig wrth helpu dargyfeirio dillad rhag safleoedd tirlenwi, ond hefyd wrth godi arian i gefnogi gwaith hanfodol Elusen y Diffoddwyr Tân.”