Nifer o griwiau yn mynychu tân masnachol mawr yn Nhrefynwy

Mae criwiau o Orsafoedd Tân ac Achub ar draws De Cymru, gan gynnwys Trefynwy, Caerffili a Maendy, ar hyn o bryd yn bresennol at ddigwyddiad tân mawr yn Nhrefynwy gyda chydweithwyr gwasanaethau brys ac asiantaethau partner.

Am oddeutu 9:20yb ddydd Llun 23 Mai 2022, fe wnaethom ymateb i adroddiadau o dân ar ‘Monnow Street’ yn Nhrefynwy. Ar ôl cyrraedd, roedd criwiau’n wynebu tân mawr, datblygedig yn effeithio ar eiddo masnachol.

Ar hyn o bryd, mae’r tân wedi’i gyfyngu i un eiddo ac nid yw wedi lledaenu i eiddo cyfagos. Mae’r ffordd yn parhau i fod ar gau a fydd criwiau’n aros ar leoliad nes bydd yr ardal yn ddiogel.

Fe’ch cynghorir i unrhyw un sydd angen teithio i neu o’r ysgolion canlynol i gynllunio llwybrau/trafnidiaeth amgen:

  • Ysgol Gyfun Trefynwy
  • Ysgolion Haberdashers Trefynwy (merched a bechgyn)

Rydym yn annog y cyhoedd i osgoi’r ardal ac i barhau i ddilyn cyngor ac arweiniad Heddlu Gwent a Chyngor Sir Fynwy.