Nid yw’n gymhleth! Cadwch yn ddiogel nos Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni.

Nid yw’n gymhleth… cadwch yn ddiogel nos Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni.

Mae Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fel arfer ymysg yr adegau prysuraf y flwyddyn sy gan ein criwiau tân.

Y llynedd, rhwng y 26ain o Hydref a’r 6ed o Dachwedd mynychom 232 o danau bwriadol – sef gostyngiad o 22% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Hoffem barhau i leihau’r nifer hon gan fod mynychu digwyddiadau o ganlyniad i gamddefnyddio tân gwyllt a choelcerthi yn gwastraffu amser ein diffoddwyr tân ac yn eu rhwystro wrth geisio mynychu gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd neu dân mewn tŷ, er enghraifft a gall hyn arwain at farwolaethau.

Yn 2018 yn unig mynychodd ein criwiau 60 o ddigwyddiadau’n ymwneud â thanu gwyllt a choelcerthi. Gall tân gwyllt fod yn ysblennydd, ond maent yn beryglus a gallant achosi anaf difrifol os cânt eu trin yn anghyfrifol. Os ydych chi eisiau mwynhau tân gwyllt eleni beth am fynd i arddangosfa ddiogel a drefnir ar gyfer y cyhoedd?

Lawrlwythwch ein taflen diogelwch tân gwyllt yma

Os ydych yn prynu tân gwyllt, cofiwch;

  • gwnewch yn siŵr bod pob tân gwyllt yn cydymffurfio â safonau a rheoliadau cymeradwy.
  • am beidio ag yfed alcohol os ydych yn gollwng tân gwyllt.
  • gadw tân gwyllt mewn bocs da chaead a dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus wrth eu defnyddio.
  • eu cynnau hyd fraich gan ddefnyddio tapr a safwch yn ôl.
  • am beidio byth â mynd yn ôl atyn nhw unwaith y maen nhw wedi’u cynnau. Hyd yn oed os nad yw tân gwyllt wedi ffrwydro eto, gallent ffrwydro o hyd.
  • beidio byth â thaflu tân gwyllt a pheidiwch â’u cadw yn eich poced.
  • barchu eich cymdogion – peidiwch ollwng tân gwyllt yn hwyr y nos a chofiwch am y rheolau sy’n ofynnol o ran y gyfraith.
  • gymryd gofal gyda ffyn gwreichion – peidiwch byth â’u rhoi i blant dan bump oed. Mae ffyn gwreichion yn boeth hyd yn oed ar ol eu diffodd felly dylid eu rhoi mewn bwcedaid o ddŵr ar ôl eu defnyddio.
  • gadw eich anifeiliaid anwes dan do drwy’r nos.

 

Gall coelcerthi hefyd fod yn risg tân.

Felly byddem yn eich argymell i ddod o hyd i ffyrdd amgen o waredu eich gwastraff, ond os ydych chi’n gynnau coelcerth, gwnewch yn siwr eich bod chi’n dilyn ein hawgrymiadau diogelwch;

  • Adeiladwch eich coelcerth mewn man sy’n bell o adeiladau, siediau gardd, ffensys a gwrychoedd.
  • Peidiwch byth â defnyddio hylifau fflamadwy i gychwyn coelcerth a pheidiwch byth â llosgi eitemau peryglus megis tuniau aerosol, tuniau paent, celfi rwber sbwng neu fatris.
  • Cadwch fwcedaid o ddŵr neu beipen ddŵr gerllaw rhag ofn tân.
  • Peidiwch â gadael coelcerthi heb oruchwyliaeth. Dylai oedolyn oruchwylio’r goelcerth nes iddi ddiffodd. Os bydd rhaid ei adael dylid rhoi ddigon o ddŵr arni i’w thampio.
  • Archwiliwch yr ardal i sicrhau nad oes anifeiliaid gwyllt nac anifeiliaid anwes yn cuddio yn y cyffiniau.

O ran Calan Gaeaf, ein pryder mwyaf yw canhwyllau mewn pwmpenni a llusernau heb eu goruchwylio heb oruchwyliaeth, yn enwedig pan fyddant yn agos at wisgoedd ffansi. Defnyddiwch oleuadau batri yn hytrach na chanhwyllau yn eich llusernau pwmpen yn enwedig mewn a phartïon plant. Gofalwch hefyd eich bod yn prynu gwisgoedd ffansi sydd wedi’u labelu â’r safonau a’r rheoliadau cymeradwy.

 

Lawrlwythwch ein poster diogelwch yma

Dywedodd Neil Davies, Rheolwr Grŵp a Phennaeth Troseddau Tân a Diogelwch yn y Cartref: “Mae’r adeg hon o’r flwyddyn wastad yn hwyl ac rydym eisiau sicrhau y gall pawb fwynhau’r dathliadau’n ddiogel. Mae ein neges yn syml iawn – byddwch yn gall a gofalwch am eich hunain a’ch gilydd fel na fydd angen ein gwasanaethau arnoch chi yn ystod eich noson.

Byddwn yn mynychu llawer o danau heb eu goruchwylio, anafiadau a choelcerthi allan o reolaeth. Y peth diogelwch i’w wneud yw cynllunio ymlaen a mynychu arddangosfa a drefnir i’r cyhoedd. Mae tanau gwyllt a choelcerthi’n lawer o hwyl ond mae’n bwysig bod yn ofalus gan fod yn gyfrifol wrth fwynhau’r dathliadau. Gall ymddwyn yn anghyfrifol o gwmpas tanau a thân gwyllt arwain at ganlyniadau erchyll, gan achosi anafiadau sy’n fygythiad i fywyd gan hyd yn oed achosi colli bywydau.”

Os ydych chi’n trefnu coelcerth heb oruchwyliaeth rhowch wybod i’n Hystafell Rheoli Tân ar y cyd ar 01268 909 408 neu am gyngor ychwanegol ac arweiniad mae croeso i chi ymweld â’n gwefan: https://www.decymru-tan.gov.uk/eich-diogelwch-a-lles/