Neges am y llifogydd ym Mynwy

Yn gynharach heddiw gweithiodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar y cyd â’n partneriaid gan gynnwys Heddlu Gwent, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Fynwy i gefnogi, cynghori a gwacáu’r preswylwyr Parc Riverside ym Mynwy wrth i’r afon Gwy fygwth llifo dros y lleoliad.

Tra buom yn lleoliad y digwyddiad cawsom alwad pellach gan ffermwr cyfagos yn adrodd bod ei ddefaid yn methu dianc rhag y dŵr llifogydd cynyddol. Cynorthwyodd y criwiau gweithredol y ffermwr i symud y defaid i fan diogel.

Mae lefel yr afon yn cael ei monitro’n gyson gan CNC a cheir rhybuddion a chamau gweithredu pellach os bydd angen.

Os yw’r llifogydd yn effeithio’n uniongyrchol ar eiddo preswyl neu os oes unrhyw bryderon gan breswylwyr, galwch 999 i gael cyngor a chymorth wrth wacau’r eiddo.