Diffoddwyr Tân Merthyr yn Codi Arian i Fachgen Lleol yn Brwydro Parlys yr Ymennydd

Croesawodd criwiau yng Ngorsaf Dân ac Achub Merthyr Tudful westai bach arbennig iawn i’r orsaf yn gynharach y mis hwn.

Cafodd Denny-Luke Walsh (3 oed), sydd wedi cael diagnosis o barlys diplegia’r ymennydd, ymweliad cofiadwy â’r orsaf gyda’i deulu gan gyfarfod â’r criwiau a hyd yn oed eistedd mewn injan dân! O ganlyniad i’r anhwylder nid oes gyda fe ddefnydd llawn o’i goesau ac nid yw’n gallu sefyll na cherdded heb gymorth. Diolchodd Jessica, mam Denny-Luke, gan fynegi cymaint yr oedd yn mwynhau’r ymweliad, dywedodd: “Mwynheuodd Denny-Luke yr ymweliad â’r orsaf dân yn fawr, a chafodd gymaint o hwyl.”

Mae Denny-Luke a’i deulu wedi’u cynghori y byddai’n addas ar gyfer llawdriniaeth o’r enw SDR a fyddai’n gwella ei fywyd yn sylweddol ac yn ei alluogi i fod yn fwy symudol. Fodd bynnag, cyn iddo allu cael y llawdriniaeth hon, mae angen i Denny-Luke gryfhau ei goesau ac mae arno angen nifer o sesiynau ffisiotherapi preifat a drud iawn.

Mewn ymdrech i helpu Denny-Luke a’i deulu gyda chostau’r sesiynau ffisiotherapi, mae Gorsaf Tân ac Achub Merthyr Tudful yn cynnal her feicio watt yn y Tesco lleol ar Ddydd Sadwrn, y 29ain o Chwefror. Hyd yn hyn, mae 16 o wirfoddolwyr wedi cofrestru ar gyfer yr her ond mae’r trefnwyr yn dal i chwilio am staff ychwanegol i ymuno â’r achos! Bydd pob un ar gefn beic yn beicio am 15 munud a bydd y digwyddiad yn para am tua saith awr.

Bydd yr holl arian a godir yn cael ei rannu rhwng Elusen y Diffoddwr Tân ac ariannu sesiynau ffisiotherapi Denny.