Mae staff sy’n gweithio mewn barrau a bwytai ym Mae Caerdydd wedi derbyn hyfforddiant achub o’r dŵr er mwyn achub bywydau

Mae staff sy’n gweithio mewn barrau a bwytai ym Mae Caerdydd wedi derbyn hyfforddiant achub o’r dŵr er mwyn achub bywydau

Mae staff sy’n gweithio mewn barrau a bwytai ym Mae Caerdydd wedi derbyn hyfforddiant achub o’r dŵr er mwyn achub bywydau gan ddiffoddwyr tân a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub.

Heddiw, mae staff o fariau a bwytai Bae Caerdydd wedi derbyn hyfforddiant diogelwch dŵr unigryw gyda’r nod o helpu i achub bywydau.

Ledled y DU bob blwyddyn mae tua 300 o farwolaethau, sef bron i 6 yr wythnos ar gyfartaledd. Yn Ne Cymru mae 25 pobl yn collie u bywydau bob blwyddyn yn y dwr o ganlyniad i achosion damweiniol a naturiol. Mae’r gwasanaethau brys yn gweithio i leihau’r niferoedd hyn ond maent yn annog y cyhoedd i gadw’n ddiogel o gwmpas dŵr!

Mae Cynllun Ymatebwyr Cymunedol Glan y Dŵr mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn helpu i addysgu pobl sy’n gweithio’n agos at ddŵr – yn enwedig mewn ardaloedd lle mae llawer o alcohol yn cael ei yfed.

Roedd staff Coffi Co, Cadwaladr a Chei’r Forforwyn a leolir ger dyfroedd y bae, ymhlith y rhai a dderbyniodd hyfforddiant ar y peryglon y mae dŵr oer yn eu hachosi i’w cwsmeriaid, a sut i achub pobl yn ddiogel. Dysgon nhw sut i ddefnyddio llinell taflu a beth i’w wneud pan fydd pobl yn mynd i drafferth yn y dŵr neu’n ymyl dŵr. Roeddent hefyd wedi cael y wybodaeth a’r offer i’w helpu i achub pobl yn ddiogel.

Mae pobl sy’n syrthio i ddŵr oer yn dilyn yr un reddf, i anadlu’n drwm, symud eu cyrff yn gyflym i bob cyfeiriad a nofio’n galed. Ond dyma’r peth gwaethaf y gellir ei wneud. Mae’n cynyddu’r tebygolrwydd y bydd dŵr yn mynd ir ysgyfaint a’r straen ar y calon ill dau. Os byddwch chi’n syrthio i ddŵr oer, ymladdwch yn erbyn eich greddf i nofio’n galed. Yn hytrach, ddylech wneud dim ond arnofio nes y gallwch reoli’ch anadl cyn ceisio nofio i fan diogel neu alw am help. Bydd gennych siawns well o lawer o aros yn fyw.

Mynychodd Gemma o Coffi Co yr hyfforddiant a dywedodd: ‘Rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau yn Coffi Co ac mae gennym drwydded alcohol, felly mae’r hyfforddiant heddiw wedi bod yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol iawn i ni ac rydym yn bellach yn teimlo’n fwy parod i ddelio ag unrhyw achub dŵr gall ddigwydd.’

Wrth arwain y fenter, dywed Rheolwr yr Orsaf Steve Hulme o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru: ‘Mae’r hyfforddiant hwn yn hanfodol i gadw ein cymunedau’n ddiogel o gwmpas dŵr drwy roi’r wybodaeth a’r sgiliau I helpu mewn digwyddiadau o’r fath. Y syniad y tu ôl i hyfforddi staff mewn tafarndai, barrau a bwytai yw y byddant yn gallu annog ymddygiadau da drwy roi gwybodaeth a chyngor i’r cyhoedd, a byddant yn gwybod yn y pen draw beth i’w wneud os bydd rhywun yn mynd i mewn i’r dŵr. Mae hyd yn oed un farwolaeth yn ormod ac rydym yn annog pawb i feddwl am eu diogelwch a diogelwch eu hanwyliaid pan fyddant yn agos at ddŵr.

Meddai Chris Cousens, Partner Cymunedol Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub: ‘Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ddarparu’r hyfforddiant Ymatebwyr Cymunedol hwn sy’n achub bywydau, gan gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau diogelwch hyfforddwyr a hyfforddeion yn amgylchedd COVID. Mae alcohol yn llif gwaed tua chwarter yr holl oedolion sy’n boddi. Gwyddom fod hyn yn risg i bobl yn y rhanbarth, yn enwedig pobl sy’n dioddef o sioc dŵr oer pan nad oeddent yn bwriadu mynd i’r dŵr. Gall cael pobl wrth law gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i gymryd y camau cywir mewn argyfwng cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd wneud gwahaniaeth mawr. Nod y cynllun hyfforddi hwn yw codi ymwybyddiaeth ac yn y pen draw helpu i achub bywydau. Rydym yn annog lleoliadau i gofrestru a helpu i’w cadw eu hunain a’u staff yn ddiogel.’

Os bydd aelod o’r cyhoedd yn gweld rhywun yn cael trafferth yn y dŵr, rydym yn eich cynghori i ffonio 999.