Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn annog y cyhoedd i Barchu’r Dŵr ar Ddiwrnod Atal Boddi’r Byd eleni

Cynhelir Diwrnod Atal Boddi y Byd bob blwyddyn ar y 25ain o Orffennaf i dynnu sylw at effaith boddi ar deuluoedd a chymunedau a rhannu cyngor ac arweiniad ar achub bywyd.

Bob blwyddyn, mae thema allweddol i ddod â ffocws a sylw at agwedd bwysig ar atal boddi. Y thema eleni yw “gwnewch un peth i atal boddi”.

Y syniad yw y gall unrhyw un gymryd un cam cadarn, mawr neu fach, i hyrwyddo atal boddi. Gallai hyn amrywio o rannu cyngor diogelwch dŵr, cymryd gwersi nofio neu gefnogi grwpiau atal boddi lleol, elusennau a mentrau.

Y llynedd, bu 49 o farwolaethau yn gysylltiedig â dŵr yng Nghymru, gyda 26 o’r rheini’n ddamweiniol.

Dywedodd Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru,:

“Gyda thywydd cynhesach yn effeithio ar sawl rhan o’r DU yn ystod yr haf eleni, hoffem atgoffa’r cyhoedd, er y gall nofio dŵr agored ymddangos yn ffordd hwyliog i gadw’n oer, gall fod yn beryglus iawn serch hynny. Mae dyfroedd megis y môr, cronfeydd dŵr, llynnoedd, afonydd, pyllau a llynnoedd mewn chwareli yn aml yn cuddio ystod o beryglon na fydd pobl yn ymwybodol ohonynt.

Er bod y tywydd yn gynnes, mae’r dŵr yn dal i fod yn llawer oerach nag y byddai llawer o bobl yn ei ddisgwyl. Mae dŵr oer hefyd yn amharu’n sylweddol ar y gallu i nofio, gan achosi hyd yn oed i’r nofwyr cryfaf orfod ymdrechu a drysu.

Rydym eisiau i bobl fwynhau’r tywydd cynnes, ond rydym hefyd eisiau iddynt gadw’n ddiogel ac rydym yn darparu gwybodaeth, fel eu bod nhw’n gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng.”

Fel rhan o’r ymgyrch bydd dros 50 o sefydliadau’r DU yn dod ynghyd am y tro cyntaf i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o beth i’w wneud wrth weld rhywun yn brwydro yn y dŵr yn ystod yr haf.

  • Ffoniwch 999 GwasanaethTân ac Achub ar gyfer dyfroedd mewndirol neu wylwyr y glannau ar yr arfordir.
  • Dywedwch wrth y person arnofio ar ei gefn
  • Taflwch rywbeth sy’n arnofio iddyn nhw

Dywedodd Bleddyn Jones, Arweinydd Diogelwch Dŵr gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Yn anffodus, yn ddiweddar bu nifer o drasiedïau yn ymwneud â chwaraeon dŵr megis padlfyrddio wrth sefyll.

Rydym am i chi fod yn ddiogel yn ystod yr haf eleni ac yn eich annog i ddilyn cyngor allweddol wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod yr haf eleni.

Dylech rwyfo mewn grŵp, rhoi gwybod i rywun ble byddwch chi a mynd â ffôn symudol. Gwisgwch dennyn sy’n rhyddhau’n gyflym bob amser yn ogystal â dyfais arnofio briodol – gallai’r camau hyn atal trasiedi.

Rydym hefyd yn annog rhieni i atgoffa eu plant am beidio â mynd i ddŵr os na allant nofio. Parchwch y dŵr a chadwch yn ddiogel.”

Bydd Diogelwch Dŵr Cymru yn parhau i weithio i leihau achosion o foddi ledled y wlad, a thrwy ddilyn y nodau a nodir yn Strategaeth Atal Boddi Cymru 2020-2026, gallwn i gyd helpu pobl sy’n ymweld â Chymru ac sy’n byw yng Nghymru i fod yn ddiogelach.

Gall unrhyw un foddi, ond ni ddylai neb.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Atal Boddi y Byd ar gael yma:

https://www.who.int/campaigns/world-drowning-prevention-day/2022