Larwm Carbon Monocsid (CO) yn achub Bywyd ym Merthyr Tudful

Ymatebodd ein criwiau i alwad larwm CO neithiwr (yr 11eg o Chwefror 2020) mewn eiddo lle’r oedd teulu o dri yn byw yn Nowlais, Merthyr Tudful.

Cynghorwyd y teulu, a oedd yn cynnwys baban pedwar mis oed, i adael yr eiddo ar unwaith oherwydd ein Hadran Rheoli Tân fel rhagofal diogelwch wrth aros i’n criwiau gyrraedd.

Ar ôl iddynt gyrraedd, dywedodd y preswylwyr wrth ein criwiau mai dim ond ychydig o fisoedd yn ôl yr oedd diffoddwyr tân o Orsaf Dân ac Achub Merthyr Tudful wedi ymweld â hwy gan osod larymau mwg, gwres a Charbon Monocsid.

Seiniodd y larwm CO yn dilyn gollyngiad o garbon monocsid o’r eiddo a chofnododd y synhwyrydd nwy ddarlleniad o 30PPM (rhannau fesul miliwn). Aeth criwiau i mewn i’r tŷ gan wisgo cyfarpar anadlu, awyru a gofyn am bresenoldeb Cyfleustodau i’r gorllewin o Gymru, a ddaeth, a  diffoddon nhw’r cyflenwad nwy.

Ar ôl 15 munud o awyru’r tŷ, cofnododd ein synhwyrydd nwy ddarlleniad o sero.  Dywedodd y sawl oedd yn byw yn yr eiddo nad oeddent wedi bod yn teimlo’n dda, ac redden nhw’n tybio y gallai fod yn arwyddion o wenwyn carbon monocsid. Cawsant driniaeth gan barafeddygon yn y fan a’r lle a’u cludo i’r ysbyty.

Mae’r holl eiddo cyfagos yn yr ardal erbyn hyn wedi’u harchwilio a chadarnhawyd bod ydarlleniadau are u cyfer yn sero.

Dywedodd Neil Davies, Rheolwr Grŵp a Phennaeth Diogelwch yn y Cartref gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ‘Mae carbon monocsid yn lladd yn ddistaw, gyda nifer fawr o farwolaethau bob blwyddyn yn digwydd o ganlyniad i wenwyno damweiniol. Ni allwch ei weld, ei flasu neu ei arogli ond gall CO ladd yn gyflym heb fawr o rybudd. Mae’n hynod bwysig sicrhau bod gennych chi larwm gweithredol yn eich cartref gan fod y symptomau’n gallu cael eu drysu’n hawdd â symptom teimlo’n sâl yn gyffredinol. Mae gosod larwm CO ym mhob ystafell â nwy tanwydd solet, neu wresogyddion paraffin yn bwysig iawn. Mae hi hefyd yn syniad da i chi ymgyfarwyddo ag arwyddion gwenwyno CO, a dysgu beth i’w wneud os ydych chi’n amau y gallai hyn fod wedi effeithio ar rywun. ‘

Nwy di-liw, di-arogl, di-flas,  sy’n cael ei gynhyrchu pan fydd tanwyddau carbon megis nwy, olew, pren a glo’n ymlosgi’n anghyflawn yw CO. Gall cyfarpar llosgi tanwydd fel stofiau, tanau, boeleri a gwresogyddion dŵr gynhyrchu CO os ydynt wedi’u gosod yn anghywir, eu hatgyweirio’n wael neu eu cynnal a’u cadw’n wael neu os yw ffliwiau, simneiau neu fentiau wedi’u blocio.

Am gyngor diogelwch ar CO, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cyngor Diogelwch CO