Cadwch yn Ddiogel Dros y Gaeaf

Mae ein criwiau wedi mynychu nifer o danau domestig yn ystod yr wythnosau diwethaf ac o ganlyniad, hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bwysleisio pwysigrwydd dilyn cyngor diogelwch yn ymwneud â thanau agored.

Cofiwch;

  • Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio tanau agored a stofiau llosgi coed tân. Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn defnyddio gwarchodwr tân i’ch diogelu rhag gwreichion yn hedfan o farwydos poeth
  • Gwnewch yn siŵr fod marwydos dan reolaeth ac wedi eu diffodd yn iawn cyn i chi fynd i’r gwely
  • Cadwch y simneiau a’r ffliwiau’n lân ac mewn cyflwr da
  • Peidiwch â chadw coed tân na thanwydd wrth ymyl tanau agored a stofiau llosgi coed tân

Am fwy o wybodaeth;

National Association of Chimney Sweeps

Lawrlwythwch Llyfryn Diogel ac Iach