Gyrrwch yn ofalus y Gaeaf yma.

Y tywydd all fod y bygythiad mwyaf i yrwyr y Nadolig hwn …

Mae gyrru yn y gaeaf yn wahanol iawn i yrru ar adegau eraill o’r flwyddyn. Mae tywydd garw a chyfnodau hirach o dywyllwch yn gwneud gyrru’n fwy peryglus. Gall amgylchiadau fod yn eithafol ar adegau, fel y gwelsom yn ystod y gaeafau diweddar, gyda chyfnodau hir o eira trwm a llifogydd ill dau. Cymerwch ychydig o amser i ystyried sut mae hyn oll yn effeithio ar eich gyrru, peidiwch â gyrru’n fel y byddech chi fel arfer!

    1. Gwiriwch ragolygon y Swyddfa Dywydd ar gyfer eich dewis ffordd.
      – Gall y tywydd newid yn gyflym, yn enwedig yn ystod y gaeaf: Gall y tywydd newid yn sydyn, yn enwedig yn y gaeaf.
      – Cylluniwch ac addaswch eich taith yn unol â hynny.
      – I gael y diweddariadau mwyaf dibynadwy ewch i www.metoffice.gov.uk
    2. Archwiliwch eich car eich hun fel rhan o’ch trefn arferol.
      – Ewch â’ch car i gael gwasanaeth proffesiynol yn rheolaidd.
      – Ewch i’r arfer o wirio eich lefelau olew ac oerydd, yn ogystal ag archwilio’ch weipars rhag ofn eu bod wedi treulio, a sicrhau bod gyda chi ddigon o hylif golchi ffenest blaen a’i fod yn effeithiol ar gyfer tymheredd o 15 gradd canradd o leiaf, neu’n is.
    3. Archwiliwch eich goleuadau niwl cyn pob taith
      – Gall niwl fod yn lleol ac yn anodd ei ragweld; dylech sicrhau bod eich goleuadau yn gweithio’n iawn cyn pob taith.
      – Defnyddiwch eich prif oleuadau os byddwch yn methu gweld yn llai na 100 medr – hyd gae pêl-droed.
      – Defnyddiwch oleuadau niwl cefn dim ond pan fydd y golau’n lleihau a’u diffodd cyn gynted ag y bydd yn gwella.
      – Os na ellir gweld yn bell, dylech agor ffenestri wrth gyffyrdd i wrando am unrhyw gerbydau posib yn nesau.
    4. Peidiwch â dibynnu ar eich ffôn clyfar.
      – Ni fydd golau ffôn bob amser yn rhoi digon o amlygrwydd i chi, a gall gwasanaeth gwael atal y gallu i ddod o hyd i’ch lleoliad. Yn lle hynny, cadwch dortsh ac atlas ffyrdd papur a theclyn llywio â lloeren yn eich car.
      – Cadwch eich ffôn ar gyfer gwneud galwadau brys.
    5. Cadwch becyn gaeaf yn y car bob amser.
      – Paratowch am y gwaethaf drwy gadw dillad cynnes, blanced, bwyd a dŵr yn y car.
      – Bydd aros yn hir yn yr oerfel am gerbyd achub i ddod i’ch nôl yn fwy cyfforddus gyda’r rhain wrth law.
    6. Gadewch ddigon o amser i dynnu’r rhew o’ch car cyn cychwyn i’r gwaith.
      – Neilltuwch amser i dynnu’r rhew o’ch car yn drylwyr.
      – Gallai gyrru gydag eira neu rew ar y car fod yn drosedd os bydd yn cyfyngu ar eich cwmpas gweld, tynnwch eira o do eich car cyn cychwyn ar eich taith.
      – Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser cyn y gwaith i dynnu’r rhew o bob ffenest o’ch car yn iawn.
    7. Peidiwch â bychannu perygl posib haul y gaeaf.
      – Gall pelydrau isel fod yn beryglus yn y gaeaf, gan effeithio’n fawr ar eich gallu i weld.
      – Cadwch bâr o sbectol haul wrth law i atal golau llachar rhag eich dallu.
    8. Gwnewch yn siwr bod eich batri’n iach.
      – Batris ceir sy’n methu yw un o’r prif resymau dros wneud galwadau yr adeg hon o’r flwyddyn, felly gwnewch yn siŵr bod eich batri chi yn cael ei gynnal a’I gadw’n rheolaidd, wedi’i wefru ac yn iach. Cadwch set o geblau cychwyn yn y car, a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i’w defnyddio!
    9. Byddwch yn ymwybodol o sut y dylech ymateb pan fydd storm yn taro.
      – Peidiwch â theithio nes bod storm wedi clirio. Dylech gadw at y prif ffyrdd os oes modd lle byddwch chi’n llai tebygol o wynebu canghennau trig a llifogydd.
      – Cydiwch yn dynn ar eich olwyn lywio i gadw rheolaeth ar eich cerbyd wrth yrru drwy chwythymau o wynt, a gwyliwch yn ofalus am fylchau rhwng coed neu adeiladau, lle byddwch chi’n fwy tebygol o ddod ar draws y gwynt yn chwythu o’r ochr.
  1. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, peidiwch â mentro gyrru drwy ddŵr llifogydd.
    – Os ydych chi’n ansicr pa mor ddwfn yw’r dŵr peidiwch â mynd i mewn iddo.
    – Os oes rhaid i chi yrru drwy ffordd sy dan ddŵr, arhoswch ar y rhan uchaf o’r ffordd a gyrrwch yn araf heb stopio.
    – Unwaith y byddwch yn glir o’r dŵr, ceisiwch ddefnyddio’ch breciau a’u sychu cymaint â phosibl – dylai cyffyrddiad ysgafn ar y brêc wrth symud fod yn ddigon.
  2. Wrth yrru mewn eira, cyflymwch yn araf deg, gan refio ychydig yn unig.
    – Er mwyn osgoi llithro, cychwynwch yn yr ail gêr, a pheidiwch â brecio’n sydyn, gan y gallai hynny gloi eich olwynion.
    – Yn ogystal â mynd yn araf, rhowch fwy o le i chi’ch hun ar y ffordd – efallai y bydd angen 10 gwaith cymaint â’r bwlch arferol rhyngoch chi a’r car o’ch blaen.
  3. Archwiliwch eich teiars.
    – Mewn amgylchiadau rhewllyd a glawog, mae cael teiars â digon o afael yn bwysicach byth. Gwnewch yn siwr bod y gwasgedd aer yn gywir (gan gynnwys yr olwyn sbâr), a bod dyfnder digonol o ran gafael – yn ôl y gyfraith, dylai hwn fod o leiaf 1.6mm i geir. Ystyriwch eu newid cyn iddynt gyrraedd y dyfnder hwn.