Gwnewch eich cartref yn fwy diogel drwy gofrestru eich offer

Fel rhan o’r Ymgyrch Mae Tân yn Lladd, yn ystod Wythnos Cofrestru Fy Offer eleni (o’r 17eg i’r 21ain o Ionawr) mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn annog aelodau’r cyhoedd i gofrestru eu hoffer fel y gellir rhoi gwybod iddynt am adalw cynnyrch neu os oes angen ei drwsio o ran diogelwch.

Rydym i gyd yn dibynnu llawer ar ein hoergelloedd, peiriannau golchi a microdonnau i wneud ein bywydau prysur yn haws, ond fyddai gwneuthurwr eich offer yn gwybod pa beiriannau sydd gyda chi a sut i gysylltu â chi pe bai nam yn dod i’r amlwg ar y model sy gyda chi?

Yr ateb yw na fyddent ar gyfer tua 100 miliwn o beiriannau.

Byddai modd newid hyn yn hawdd pe byddech chi’n cymryd ychydig funudau i gofrestru eich offer sy mor werthfawr i chir.

Yn ôl amcangyfrifon y llywodraeth, erbyn hyn rydym yn defnyddio dros 212 miliwn o beiriannau hanfodol i goginio, golchi dillad a llestri, glanhau lloriau a chadw ein bwyd.  Ac eto, mae ymchwil swyddogol yn dangos hefyd nad yw bron i hanner ohonom erioed wedi cofrestru cynnyrch, gan olygu bod miliynau o beiriannau’n nad oes modd dod o hyd iddynt.

Dim ond ychydig o funudau sydd eisiau i gofrestru eich offer holllbwysig a gwneud eich cartref yn lle llawer mwy diogel. Cofrestrwch eich peiriannau yma: registermyappliance.org.uk.

Dywedodd Jason Evans, Pennaeth Adran Lleihau Risg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Gan ein bod i gyd eisiau gweld ein hoffer yn gweithio’n effeithlon am flynyddoedd lawer, mae cynnal a chadw a chofrestru peiriannau yn dod yn fwyfwy pwysig.  Gallai fod yr offer yn ein cartrefi pan symudom i mewn, neu gaellem fod wedi eu cael gan y teulu neu mae’n bosib eu bod wedi cael eu gosod ac anghofio amdanynt wedyn.  Ddylem byth gymryd diogelwch ein cartrefi yn ganiataol.  Mae cofrestru’n hawdd, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau presennol, a gellir cwblhau’r broses heb dderbynneb neu wybod pryd yn union y prynwyd yr offer am y tro cyntaf.”

Dim ond ychydig o funudau sydd eisiau i gofrestru eich offer holllbwysig a gwneud eich cartref yn lle llawer mwy diogel. Cofrestrwch eich peiriannau yma: registermyappliance.org.uk.

Er mwyn cynyddu diogelwch a hyd effeithiolrwydd offer mae porth Register My Appliance hefyd yn cynnig:

  • Rhestr o atgyweiriadau ac adalw diogelwch offer
  • Awgrymiadau a chyngor am ddiogelwch yn y cartref
  • Argymhellion ar gyfer gofalu am offer

Adnoddau Defnyddiol