Gweithwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymgymryd â Her Nofio Dŵr Agored

Ym mis Medi, bydd grŵp o weithwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) yn cymryd rhan mewn nofiad dŵr agored heriol i godi arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.

Bydd hyn yn cymryd lle ar yr 16eg o Fedi, a fydd y nofwyr yn taclo 15 milltir gan ddechrau yn Weston-super-mare a gorffen yn Ynys y Barri.

Yr her fwyaf i’r nofwyr fydd y tywydd a chryfder y tonnau, a allai gynyddu’r pellter nofio oherwydd y gwthio’n ôl.

Er hyn, mae ein nofwyr yn gyffrous i fod yn cymryd rhan yn yr her! Bydd mis Medi yma cyn i ni sylwi, ac maen nhw’n cymryd eu hyfforddiant o ddifrif ac yn cadw iechyd a diogelwch ar flaen y gad yn eu cynllunio.

Yn ogystal â phrofi eu ffitrwydd a’u dygnwch, mae’r nofwyr hefyd yn gyffrous i fod yn cynrychioli GTADC a chodi arian ar ran Elusen y Diffoddwyr Tân, sy’n cefnogi anghenion meddyliol, corfforol a chymdeithasol holl aelodau’r gwasanaeth a rhai sydd wedi ymddeol o Deulu Tân y DU.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gyfrannu, ewch i Dudalen Codi Arian Her Nofio Dŵr Agored.

Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau ar hyfforddiant a’r her!