Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn Cefnogi Wythnos Cofrestru fy Offer

Y ffordd orau i ofalu am offer @registermyappliance.org.uk

Mae’n annhebygol y bydd mwy na 40 miliwn o offer mawr sy’n cael eu defnyddio yng nghartrefi’r DU wedi’u cofrestru gyda’r gwneuthurwyr, sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn eu holrhain os oes angen atgyweiriad diogelwch byth.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi Wythnos Cofrestru fy Offer ac yn annog pob cartref i ofalu am eu hoffer yn y ffordd symlaf a phwysicaf: cofrestru eu hoffer cartref i sicrhau bod eu brandiau yn gwybod ble i ddod o hyd iddynt. P’un a yw’r teclynnau wedi’u prynu’n ddiweddar, wedi’u gosod ers amser maith, wedi eu cael ‘bron yn newydd’ neu’n ail-law, mae eu cofrestru’n hanfodol i helpu i sicrhau bod modd eu defnyddio’n ddiogel am cyn hired â phosibl.

Yn ôl arolwg newydd a gynhaliwyd ar gyfer y Gymdeithas Gwneuthurwyr Offer Domestig (AMDEA) gan YouGov[1], mae’r mwyafrif helaeth (60%) o oedolion y DU yn credu bod eu hagwedd tuag at ofalu am eu hoffer wedi newid dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – boed hynny er mwyn ceisio gwneud i’w heiddo bara’n hirach, neu i arbed arian neu adnoddau. Ac eto nid yw bron i draean (32.2%) y boblogaeth byth neu braidd byth yn cofrestru eu hoffer mawr. Amcangyfrifir bod 133 miliwn o oergelloedd, peiriannau golchi a phoptai’n cael eu defnyddio mewn cartrefi yn y DU[2] a gallai hyn olygu bod tua 42.8 miliwn heb gael eu cofrestru.

Er bod galw offer cartref yn ôl yn rhywbeth prin, gall problemau gyda’r offer ddatblygu dros amser a gall addasiad syml, rhad ac am ddim yn y cartref gan beiriannydd cymwys sicrhau bod peiriannau’n parhau i fod yn fwy diogel am gyfnod hirach. Ond, yn wahanol i’n ceir, mae llawer o’r eiddo gwerthfawr hyn yn dal i fod yn anodd cael gafael arnynt oherwydd nad ydynt wedi cael eu cofrestru.

Mae porth Cofrestru Fy Offer AMDEA yn rhoi ateb cyflym a hawdd sy’n cynnig mynediad ar-lein i dros 70 o frandiau blaenllaw, gyda’r mwyafrif yn fodlon cofrestru offer newydd a hŷn.

Datgelodd yr arolwg hefyd fod dros chwarter (29%) o oedolion eisoes wedi prynu offer mawr ail-law yn y gorffennol ac y byddai 50% yn ystyried hyn yn y dyfodol. Yn yr un modd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd mwy na hanner (53%) yr oedolion wedi prynu offer coginio bach newydd ond roedd y mwyafrif (59%) yn dal heb eu cofrestru. O ran offer hŷn, nid yw’r rhan fwyaf o oedolion y DU (57%) yn ymwybodol bod dal modd iddynt gofrestru offer hyd yn oed os na fu ganddynt erioed y dderbynneb neu os nad yw’r dderbynneb ganddynt mwyach. Yn y rhan fwyaf o achosion, y cyfan sydd ei angen ar gyfer cofrestru yw gwybodaeth am y model a’r rhif, ac mae cyngor clir ar y porth ar gyfer ble i ddod o hyd i’r manylion hyn.

Dywedodd Kevin Yates, Pennaeth Lleihau Llosgi Bwriadol a Diogelwch yn y Cartref:

“O gofio ein bod ni gyd yn pryderu bod angen i’n heiddo bara’n hirach, gan weithio’n ddiogel ac yn effeithlon, mae’n gwneud synnwyr i gymryd gofal i gofrestru ein holl offer mawr yn ogystal â’r teclynnau bach yna yr ydym yn dibynnu fwyfwy arnynt yn y gegin. Mae’n rhad ac am ddim ac mae’n golygu mai chi fydd y cyntaf i wybod os bydd angen atgyweirio’r offer er diogelwch. Dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd a bydd gennych dawelwch meddwl ac efallai y bydd y teclyn yn para’n hirach hefyd.”

Roedd yr arolwg hefyd yn holi ynglŷn â dealltwriaeth defnyddwyr o’r derminoleg a ddefnyddir i ddisgrifio gwahanol fathau o offer sydd ‘bron yn newydd’. Er bod 73.4% a 72% o bobl yn deall y termau ‘wedi’u hadnewyddu’ a ‘model arddangos’, dim ond 46.2% oedd yn gwybod beth oedd ystyr ‘allan o’r bocs’, a dim ond 22.4% sy’n dweud eu bod yn deall yr ymadrodd ‘wedi’u graddio’. Roedd 12.6% wedi eu drysu gan yr holl ddisgrifiadau.

Er y gall gweithgynhyrchwyr a siopau ddefnyddio termau ychydig yn wahanol i ddisgrifio offer ‘bron yn newydd’ neu gyfarpar ‘sydd wedi cael ei ddefnyddio’, mae bob amser yn dda cwestiynu pam mae’r cynnyrch yn rhatach a holi ynglŷn â gwarant. Ar gyfer arweiniad cychwynnol, mae’r diffiniadau fel arfer fel a ganlyn:

  • Allan o’r bocs, neu focs agored: Yn llythrennol, nid yw bellach yn y bocs gwreiddiol neu focs wedi’i selio. Yn aml mae’n golygu darn o offer sydd wedi’i ddychwelyd neu ei ddefnyddio fel model arddangos. Yn y naill achos neu’r llall, efallai fod nam neu grafiad bach ar yr wyneb y mae’n rhaid ei nodi.
  • Wedi’u graddio: Fe’u gelwir weithiau’n stoc gradd B neu wedi dod o’r ffatri â nam bach arnynt. Offer newydd sbon yw’r rhain sydd wedi’u dychwelyd i’r cyflenwr neu’r gwneuthurwr gwreiddiol. Mae yna nifer o resymau dros ddychwelyd offer, ond y mwyaf cyffredin yw oherwydd difrod cosmetig i’r offer neu oherwydd nad yw’r offer yn berffaith. Unwaith eto, dylai’r manylion fod ar gael.
  • Wedi eu hadnewyddu: cynhyrchion sydd wedi’u dychwelyd oherwydd eu bod yn ddiffygiol ac wedi’u trwsio. Gwiriwch fod hyn wedi’i wneud a’i brofi gan y gwneuthurwr neu ei gynrychiolydd.
  • Model arddangos: Fel mae’r enw’n awgrymu mae’r offer hyn wedi cael eu harddangos. Mae’n debyg nad ydynt erioed wedi cael eu defnyddio ond efallai fod ganddynt ddiffygion cosmetig ac efallai na fydd y bocs neu becyn gwreiddiol ar gael.