Gorsafoedd Tân ac Achub i dreialu llinell argyfwng ‘Noddfeydd Diogel’

Gorsafoedd Tân ac Achub Tredegar a Chanol Caerdydd yw’r gorsafoedd cyntaf i dreialu botymau llinell argyfwng 999 Noddfeydd Diogel, wrth ehangu ymgyrch Noddfeydd Diogel ymhellach.

Ar y 25ain o Dachwedd 2021, dynodwyd Gorsafoedd Tân ac Achub ar draws De Cymru’n Noddfeydd Diogel i aelodau’r cyhoedd. Fel Noddfa Ddiogel, gall unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd mewn perygl uniongyrchol fynychu un o orsafoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru am help.

Wrth ehangu’r fenter, gosodwyd blwch botwm argyfwng 999 mewn dwy orsaf sy’n hysbysu ein Hystafell Cyd-reoli Tân i gefnogi ymhellach aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau.

Gosodwyd y systemau hyn yng Ngorsafoedd Tân ac Achub Tredegar a Chanol Caerdydd – llinell argyfwng 999 i unrhyw un sydd mewn perygl uniongyrchol. Mae hyn yn golygu, er gwaethaf p’un ai yw gorsaf yn un Ar Alwad neu beidio, neu os yw’n cael ei staffio gan Ddiffoddwyr Tân Llawn Amser ar bob adeg, bydd unrhyw berson sy’n teimlo’n anniogel yn gallu mynychu’r gorsafoedd hynny a gwthio’r botwm 999, neu ddeialu 999 os nad oes aelod criw yn bresennol ar yr adeg honno. Mae gan bob Gorsaf arwyddion amlwg ar waith fel bydd y sawl sy’n pasio’n gwybod beth i’w wneud mewn sefyllfa sy’n agored i niwed a pheryglus.

Dywedodd Pennaeth Lleihau Risg a Rheolwr Ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Jason Evans:

“Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd ddefnyddio’r swyddogaeth Noddfeydd Diogel ar un o’n 47 o orsafoedd Tân ac Achub os ydyn nhw’n teimlo’n anniogel mewn unrhyw sefyllfa.

Mae criwiau wedi’u harfogi i gefnogi’r rhai hynny sydd mewn angen, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru i flaenoriaethu ymateb sydyn i fygythiad uniongyrchol i unigolion. Estyniad pellach o Noddfeydd Diogel yw’r llinell argyfwng 999 ac, os yw’n llwyddiannus, bydd hyn cael ei gynnal mewn mwy o orsafoedd ar draws y Gwasanaeth.

Rydym wedi gweld llond llaw o gamau gweithredu cadarnhaol gan brosiect Noddfeydd Diogel ers ei lansio, gan gynnwys gallu arwyddbostio gwryw digartref am gymorth pwrpasol a rhybuddio’r heddlu ynghylch merch yn cilio rhag camdriniaeth ddomestig, a byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”

Am restr gyflawn o Orsafoedd Tân ar draws De Cymru, ymwelwch â https://www.southwales-fire.gov.uk/#stationsMap