Gorsaf Dân Treharris yn Sefydlu Diffibriliwr Newydd ar Gyfer y Gymuned Leol

Yn ddiweddar, mae Gorsaf Dân Treharris, sy’n rhan o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi sefydlu diffibriliwr newydd ar gyfer y gymuned leol. Mae’r diffibriliwr, sy’n fenter ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a chynghorydd lleol Treharris ’, Gareth Richards, ar wal allanol yr orsaf ac mae ar gael i bawb yn y gymuned gyfagos.

Hyd yn hyn, dim ond un diffibriliwr oedd gan gymuned Treharris ac mae hwnnw yn y ganolfan chwaraeon leol, ond dim ond yn ystod oriau agor cyfyngedig y mae’r uned ar gael. Gan ystyried hyn cafodd Tim Davies, Rheolwr yr Orsaf a Chris Evans, Pennaeth yr Orsaf sicrhaodd ddau uned diffibrilio gan YGAC, y naill i’w gadw yng Ngorsaf Treharris a’r llall i’w leoli ym Merthyr Tudful.

Dywedodd Chris Evans, Pennaeth Gorsaf GTADC: ‘Rydym yn hynod ddiolchgar i YGAC a’r Cynghorydd Richards, sy’n gynghorydd lleol am eu cefnogaeth wrth gyrchu’r unedau. Byddwn yn ymdrechu i ddarparu a chefnogi ein cymuned leol orau y gallwn. ‘

Dywedodd Nigel Williams, rheolwr grŵp Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, ‘Dyma enghraifft arall lle mae ein penaethiaid yn gweithio i leihau risg o fewn eu cymunedau. Mae hon yn fenter ragorol rhwng GTADC/ YGAC a’r cynghorydd lleol, a all achub bywydau. Da iawn.

Dywedodd Ian Izatt, Rheolwr Dysgu a Datblygu gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae bob amser yn bleser mawr gweithio gyda’n cydweithwyr yn y Gwasanaethau Tân ac Achub i wella diogelwch a lles ein cymunedau.

“Bydd dod ag ail Ddiffibriliwr Cyhoeddus i ardal Treharris yn cynyddu’r cyfraddau goroesi yn sgil ataliad ar y galon ac o bosibl yn caniatáu dechrau’r gadwyn oroesi yn gynt.

“Rydym yn gwybod o ganlyniad i waith ymchwil bod siawns claf o oroesi yn gostwng o 10% am bob munud sy’n mynd heibio heb ddiffibrlio mewn achos o ataliad ar y galon.

“Mae diffibrilwyr cyhoeddus yn hawdd i’w defnyddio a gall unrhyw un eu defnyddio i achub bywyd.”