Gorsaf Dân ac Achub Bro Ogwr

Gorsaf Dân ac Achub Bro Ogwr oedd yr Orsaf Dân gyntaf yn y DU i gyflawni Gwobr Gymunedol y faner Werdd y llynedd mewn cydnabyddiad o’i safonau amgylcheddol uchel, ei lendid, ei ddiogelwch a’i ymrwymiad cymunedol.

Dywedodd Mathew Bradford, Pennaeth Gorsaf Bro Ogwr:

Ar ddechrau Chwefror, a gyda chymorth Cadwch Gymru’n Daclus (Orchard Pack) ac elusen Ogmore Valley Priide, plannwyd yn agos at 20 o goed a blodau ffrwythau Cymreig anghyffredin a thros 150 o fylbiau blodau gwyllt cynhenid yng Ngardd Gymunedol Gorsaf Dân Bro Ogwr. Ychwanegwyd meinciau eistedd atodol i’r gymuned fwynhau’r ardd wrth iddi flodeuo ar hyd y misoedd nesaf”.

“I gefnogi ein strategaeth cynaliadwyedd a bioamrywiaeth, roedd modd i ni ail-ddefnyddio’n holl gardfwrdd, papur a gwastraff coed gwrteithiol o fewn yr ardd i gefnogi cynefinoedd gwybed, pryfetach a gwenyn gwyllt. Ry’n ni’n eithriadol o falch o’r ffaith ein bod wedi gallu plannu nifer o goed ffrwythau hynod anghyffredin Cymreig o fewn Cwm Ogwr ynghyd â hyrwyddo’u tyfiant yn Ne Cymru. Rydym wedi ail-ymgeisio ar gyfer ein Gwobr Baner Werdd eto eleni, gyda’r nod o fod, unwaith eto, yr unig Orsaf Dân yn y DU i gyflawni hyn”.

      

Coed afal, gellyg a cheirios Cymreig anghyffredin – Ceiriosen Gariad, Brenhines yr Wyddfa (Snowdon Queen Pear), Gwell Na Mil (Monmouth Apple) a chynefinoedd gwybed, pryfetach a gwenyn gwyllt.