Tân yn Crossways y Bontfaen

Tua 11:23pm Ddydd Sul y19eg o Fai 2019, derbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru adroddiadau am dân yn Crossways, y Bontfaen.

Mae criwiau’n aros yn y safle o hyd wrth iddynt barhau i ddelio â thân mawr datblygedig sy’n cynnwys tua 400 o dunelli o ddillad yn aros i gael eu hailgylchu.

Mae ymladdwyr tân yn gweithio’n gyflym mewn amodau heriol, ynghyd â’n partneriaid yn y gwasanaethau brys gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu De Cymru, Dŵr Cymru a’r awdurdod lleol i sicrhau bod y tân yn cael ei reoli ac nad yw’n ymledu i adeiladau cyfagos.

Pan roedd y tân ar ei anterth, roedd naw peiriant yn mynychu, gyda chriwiau sy’n parhau i weithio’n gyflym ac yn ddiogel gan darfu cyn lleied â phosibl ar fusnesau a chartrefi lleol.

Mae preswylwyr cyfagos yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal ac i gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau oherwydd y mwg sy’n cronni.