Diwrnod y Rhuban Gwyn 2022

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn cymryd lle ar Ddydd Gwener y 25ain o Dachwedd, sy’n cyd-daro â Diwrnod Cenedlaethol Dileu Trais yn erbyn Merched.

Mae’r un diwrnod ar bymtheg o actifiaeth eleni sy’n dilyn Diwrnod y Rhuban Gwyn yn rhedeg tan 9 Rhagfyr, law yn llaw â’r rhan fwyaf o gystadleuaeth Cwpan Byd FIFA i Ddynion. Yn y Rhuban Gwyn, maen nhw’n annog pawb, yn enwedig dynion a bechgyn, i arddel Addewid y Rhuban Gwyn i beidio defnyddio, esgusodi neu fod yn fud i drais dynion yn erbyn merched.

Gall pob dyn ymuno â’r tîm i roi taw ar drais yn erbyn menywod a merched – dyna yw #YGôl.

Eleni, fe wnaeth y Rhuban Gwyn adnabod 11 o dueddiadau – un i bob un chwaraewr mewn tîm pêl droed, y gall bob un ohonom ymdrechu i’w corffori o fewn ein bywydau o ddydd-i-ddydd wrth i ni gefnogi menywod a merched. Yr 11 tuedd yw:

  • Cynghreirio
  • Gofalgar
  • Empathig
  • Dewr
  • Tyner
  • Hydwyth
  • Dibynadwy
  • Gobeithiol
  • Egwyddorol
  • Myfyriol
  • Cefnogol

Beth fyddwch chi’n gwneud?

  • Byddwn yn dangos ein cefnogaeth hirhoedlog o’r ymgyrch wrth arddangos symbol y Rhuban Gwyn ar draws ein fflyd, y fenter Hafanau Diogel ac wrth dyngu’r llw.
  • Byddwn ni yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n rhoi’r gic gyntaf i’n hymgyrch gyda sesiwn cinio wrth ddysgu i’n cydweithwyr, a chlywed gan y Ddarlledwraig Ruth Dodsworth am ei phrofiadau personol hithau o drais domestig.
  • Ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, Dydd Gwener y 25ain o Dachwedd, cynhelir gêm bêl-droed elusennol rhwng y Gwasanaeth Tân a Heddlu De Cymru a drefnwyd ar y cyd â’r Gwasanaeth Trais Domestig Assia, mewn cefnogaeth o’r Rhuban Gwyn.
  • Ar hyd yr ymgyrch, bydd yn amlygu pob un o’r 11 tuedd gyda’n Diffoddwyr Tân Llawn Amser mwyaf newydd.

Sut allwn helpu?

Mae pob gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n gweithredu fel ‘Hafanau Diogel’. Mae hyn yn golygu gall pobl sy’n teimlo’n agored i niwed ac sydd mewn perygl agos, o ganlyniad i ystelcwyr, trais domestig neu unrhyw fygythiad arall, fynd at un o’n Gorsafoedd am help a chymorth.

Dewch o hyd i’ch orsaf agosaf yma.