Diwrnod Rhyngwladol y Dynion 2022

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn cael ei ddathlu’n flynyddol ar y 19eg o Dachwedd. Bob blwyddyn cyflwynir ail thema ar gyfer y dathliad. Y thema eleni yw ‘Dynion yn Arwain Trwy Esiampl’.

Sefydlwyd y diwrnod hwn gan Dr Jerome Teelucksingh ym 1999, er bod galw am ddiwrnod rhyngwladol i ddynion ers y 1960au a chyn hynny. Erbyn hyn, mae mwy na 12 o wledydd ar draws y byd yn dathlu’r digwyddiad, ac mae diddordeb yn cynyddu’n gyflym.

Y chwe philer Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yw:

  • hyrwyddo modelau rôl gwrywaidd cadarnhaol
  • dathlu cyfraniadau cadarnhaol dynion i gymdeithas
  • canolbwyntio ar iechyd a lles dynion
  • amlygu gwahaniaethu yn erbyn dynion
  • gwella cysylltiadau rhyw a hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol
  • creu byd gwell a mwy diogel.

Yn unol â’r thema eleni, dyma rai o blith llawer o’n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru sy’n ‘Arwain drwy Esiampl’:

 

Gareth Green – Uwch Gynghorydd Iechyd a Ffitrwydd ac Elliot Rees – Cynghorydd Iechyd a Ffitrwydd

Mae’r Cynghorwyr Iechyd a Ffitrwydd yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn y gweithle mewn sawl ffordd, er mwyn annog gweithwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol.

Enghreifftiau o hyn yw grwpiau cerdded, cyflwyniadau gweithgaredd corfforol i’r holl ddechreuwyr newydd, datblygu cyfleusterau campfa ar draws y Gwasanaeth, cyngor ffitrwydd a maeth i unigolion, codi ymwybyddiaeth o’r ‘Cynllun Beicio i’r Gwaith’, profion ffitrwydd arferol ar gyfer staff gweithredol, darparu ‘Cynllun Ymarfer Corff Wythnosol,’ rhoi mewnbwn ffitrwydd mewn cyrsiau hyfforddi diffoddwyr tân cychwynnol yn ogystal â hyrwyddo ymgyrchoedd cenedlaethol megis ‘Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol.’

Dyma awgrymiadau gwych ein Hymgynghorwyr ar ofalu am eich lles meddyliol a chorfforol:

  • Ceisiwch fod mor actif â phosibl a dewiswch weithgareddau corfforol yr ydych yn eu mwynhau. Bydd gweithgareddau yn yr awyr agored yn arbennig o fuddiol. Mae gweithgareddau grŵp hefyd yn wych am helpu pobl i gynnal eu cymhelliant.
  • Ceisiwch gael cwsg o ansawdd da ac os ydych chi’n cael trafferth gyda hyn rhowch gynnig ar ddulliau megis cerddoriaeth ymlaciol, darllen cyn cysgu, myfyrdod/ymwybyddiaeth ofalgar, technegau anadlu a diffodd dyfeisiau electronig cyn mynd i’r gwely.
  • Yfwch ddigon o ddŵr.
  • Os ydych yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, ceisiwch gymorth.
  • Bwytwch ddiet cytbwys ac iach

Gareth ac Elliot – “Mae’n wirioneddol bwysig ein bod ni’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Dynion gan ei fod yn rhoi’r cyfle i bob un ohonom fyfyrio ar y gwaith cadarnhaol a gyflawnwyd gan ddynion ar draws y byd, a deall y gallem i gyd ddysgu a datblygu o’r llwyddiannau hyn.”

 

 

Carl Marsh – Diffoddwr Tân

Carl yw un o’r diffoddwyr tân niferus yn y Gwasanaeth sy’n amddiffyn ein cymunedau yn Ne Cymru, ac yn esiampl ardderchog fel Ymladdwr Tân a thrwy ei anturiaethau.

Gan ei fod yn wynebu gwahanol sefyllfaoedd a all fod yn heriol iawn mewn sawl ffordd o ddydd i ddydd, mae Carl yn mwynhau ffordd o fyw egnïol y tu allan i’w rôl heriol fel Ymladdwr Tân. Mae e’n mwynhau byd natur trwy badlfyrddio, cerdded a gwersylla, fel ffordd i gynnal lles cytbwys.

Ym mis Mawrth 2023, bydd Carl yn cerdded i Everest Base Camp i godi arian ar gyfer yr elusennau canlynol: Elusen y Diffoddwyr Tân, Canolfan Ganser Felindre a’r Gymdeithas Strôc. Mae’r elusennau hyn yn gwneud gwaith anhygoel o fewn ein cymuned leol, ac mae aelodau o deulu Carl wedi cael profiad personol o’r cyflyrau hynny dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ôl profi trawma lle rydych chi’n deall bod amser yn werthfawr, penderfynodd cyflawni ei restr bwced a mynydd Everest oedd nesaf, gan godi arian ar gyfer elusennau ardderchog.

“Yn ystod Diwrnod Rhyngwladol y Dynion, mae’n bwysig cydnabod y llu o wahanol fathau o ddynion sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymdeithas, yn ogystal â cheisio deall pam y gallai eraill ei chael hi’n anodd. Yn ystod Diwrnod Rhyngwladol y Dynion hoffwn weld y term “iechyd meddwl” yn cael ei ddisodli gan “Iechyd y Meddwl.” Rwy’n teimlo bod y geiriau “iechyd meddwl” yn cael effaith negyddol wrth eu clywed. Byddai’n fuddiol dros ben i bawb allu bod yn agored ac yn onest a chael trafodaethau am eu meddyliau a’u teimladau heb deimlo eu bod yn cael eu barnu mewn bywyd bob dydd.”

 

 

Os oes diddordeb gyda chi mewn cyfrannu at yr her codi arian hon, cliciwch yma.

 

Rhys Griffiths – Rheolwr Criw, Tîm Ymgysylltu Ieuenctid Gweithredol

Ar hyn o bryd mae Rhys yn y Tîm Diogelwch Cymunedol yn helpu gydag ystod o brosiectau, yn enwedig Wythnos Diogelwch Ffyrdd. Mae’r tîm yn gwneud gwaith gwych yn addysgu pobl ifanc am y risgiau sy’n gysylltiedig â gyrru’n anghyfrifol, ond mae’n ymddangos nad yw mabolgampwyr proffesiynol ifanc yn cael yr un wybodaeth â myfyrwyr coleg. Mae Rhys a gweddill y tîm Diogelwch Cymunedol yn gweithio gyda chynifer o’r grwpiau hyn â phosibl yn ystod Gaeaf 2022, megis clybiau megis Dinas Caerdydd, a Chlybiau Pêl-droed Casnewydd a Phen-y-bont.

Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yw’r prif achos marwolaeth pobl ifanc 15-25 oed yng Nghymru, ac mae hwn yn ystadegyn y mae’r Tîm Diogelwch Ffyrdd yn gweithio’n galed i’w newid. Dywedodd Rhys “Mae’r gwaith rydym yn ei wneud ym maes Diogelwch Cymunedol yn hanfodol ar gyfer lleihau risg a darparu arweiniad i bobl ifanc yn arbennig. Weithiau mae’n anodd meintioli’r effaith a gawn, ond os ydym yn cyflawni i filoedd o bobl fel yr ydym yr wythnos hon, a llond llaw o ddechrau gyrru’n fwy cyfrifol, rydym yn ennill.”

Yn ystod Diwrnod Rhyngwladol y Dynion, hoffai Rhys weld mwy am unigolrwydd, gan ddyfynnu Oscar Wilde “Byddwch yn dryw i chi’ch hun, dyna’r unig bosibilrwydd.”

 

 

Criwiau Mwstachwedd

Mae’r rhan fwyaf ohonom eisoes yn gwybod am Fwstachwedd. Mae Fwstachwedd yn elusen sy’n gweithio tuag at godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer iechyd dynion – yn benodol canser y prostad, canser y ceilliau, iechyd meddwl ac atal hunanladdiad.

Isod mae lluniau o rai o’n cydweithwyr sy’n ddynion a’u mwstashis ‘Mwstachwedd’.

 

Cydweithwyr yn y Pencadlys

 

Gwylfa Las Aberbargod

 

 

Os hoffech chi gyfrannu at ymgyrch godi arian Mwstachwedd Aberbargod, cliciwch yma.

 

Gwylfa Gwyn Pen-y-Bont

 

 

Os hoffech chi gyfrannu at ymgyrch godi arian Mwstachwedd Pen-y-Bont, cliciwch yma.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion, ewch i:https://internationalmensday.com/.