Diogelwch Dŵr Cymru yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Atal Boddi

Mae Diogelwch Dŵr Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn gwybod sut i gadw’n ddiogel a mwynhau’r dŵr yn ystod yr haf eleni. Mae ffigurau’n dangos bod tua 25 y cant o ddisgyblion sy’n gadael ysgolion cynradd yn methu nofio, ac mae arbenigwyr yn ofni y bydd gorfod cau pyllau yn ystod y pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf yn gadael llawer o bobl ifanc heb y gallu i nofio neu gwybod sut i achub eu hunain.

Mae Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU (RLSS UK), yn ofni y bydd teuluoedd yn heidio i draethau a lleoliadau dŵr mewndirol yn ystod yr haf eleni heb ystyried y peryglon posibl yn dilyn codi cyfyngiadau symud, gan roi eu hunain ac eraill mewn perygl.

Mewn galwad i weithredu, mae aelodau o’r grŵp atal boddi diogelwch Dŵr Cymru wedi dod ynghyd i gefnogi ymgyrch Wythnos Genedlaethol Atal Boddi Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU, a gynhelir rhwng y 19eg a’r 26ain o Fehefin 2021. Nod yr ymgyrch yw sicrhau bod pawb yn gwybod sut i gael hwyl a cadw’n ddiogel o gwmpas dŵr.

Nod yr ymgyrch ar y cyd hon yw lleihau nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â dŵr a niwed cysylltiedig ac mae’n cael ei chefnogi gan sefydliadau o ystod eang o sectorau gan gynnwys cyrff llywodraethu chwaraeon, gwasanaethau achub, rheoleiddwyr, awdurdodau llywio a harbwr, llywodraeth leol, cyfleustodau a’r rhai sy’n cynrychioli gweithredwyr chwareli – sef y sawl y mae Ddiogelwch Dŵr Cymru’n eu cynnwys.

Nod Wythnos Atal Boddi yw arfogi pawb ledled y DU ac Iwerddon â’r sgiliau a’r wybodaeth, i wneud y penderfyniadau cywir am ddiogelwch dŵr. Mae dros 400 o bobl yn boddi o ganlyniad i ddmawain yn y DU ac Iwerddon bob blwyddyn. Mae llawer mwy na hynny’n dioddef anaf, gan gynnwys anafiadau a effeithir yn andwyol ar eu bywydau, wrth osgoi boddi.

Dywedodd Bleddyn Jones  sy’n Aelod o Ddiogelwch Dŵr Cymru ac Arweinydd Diogelwch Dŵr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Rydym yn deall nad oedd modd i lawer o bobl deithio i gael gwyliau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf achos cyfyngiadau’r Llywodraeth. Os ydych yn cynllunio gwyliau gartref gan gynnwys taith i’r traeth neu mwynhau mannau harddwch mewndirol ar lan dŵr yng Nghymru, cofiwch gadw’n ddiogel a pheidiwch â chymryd unrhyw risgiau diangen. Rydym yn annog rhieni i atgoffa eu plant i beidio ag anwybyddu arwyddion rhybuddio sydd yno i’w hamddiffyn. Er bod y tywydd yn gynnes, mae’r dŵr yn dal i fod yn oer tu hwnt, a gall hynny achosi ‘sioc dŵr oer’ gan rhoi pobl mewn perygl o foddi. Mae yna hefyd lawer o beryglon cudd mewn dŵr agored megis sbwriel cuddiedig a rwbel a all achosi anafiadau sylweddol gan arwain at achub o’r dŵr gan y gwasanaethau brys. Anogwch eich plant i barchu’r dŵr a chadw’n ddiogel. ”

Dywedodd Lee Heard, Cyfarwyddwr Elusen Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU: “Dylai dyfrffyrdd hardd y DU fod yn lleoedd lle gall pawb o bob oedran a phob lefel ffitrwydd deimlo’n gartrefol, a mwynhau’r amgylchedd. Ond rydyn ni’n annog pobl i ddygu sut i fwynhau dŵr yn ddiogel, er mwyn sicrhau na fydd diwrnod allan llawn hwyl yn troi’n drasiedi. Mae’r ymgyrch Wythnos Atal Boddi a gynhelir eleni’n hollbwysig. Yn ystod 2020 a 2021, mae pobl ifanc wedi colli allan ar gyfle hanfodol i nofio, gan adael bwlch dramatig mewn addysg nofio a diogelwch dŵr mewn ysgolion. Mae Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU yn credu y gall pawb fwynhau dŵr yn ddiogel o gael addysg a hyfforddiant hygyrch am ddim. Rydym yn annog cymaint o rieni â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgyrch gan ddefnyddio ein hadnoddau ar-lein am ddim, a rhoi’r sgiliau i’w plant fwynhau hwyl gydol oes yn y dŵr. Ewch i wefan Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd i gael mynediad at adnoddau diogelwch dŵr am ddim gan yr elusen. ”

Mae Diogelwch Dŵr Cymru wedi lansio Strategaeth Atal Boddi genedlaethol gyntaf Cymru, gyda’r nod o leihau marwolaethau a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â dŵr yng Nghymru.