Diffoddwyr tân yn diffodd tân mawr yn Wenvoe, Caerdydd

Gweithiodd Diffoddwyr Tân yn ddiflino i ddiffodd y tân a oedd yn cynnwys tua thair tunnell o deiars a boncyffion.

Am oddeutu 9:01yb ar Ddydd Iau y 23ain o Fehefin 2022, cawsom adroddiadau am fwg yn yr ardal ger Heol Cwrt-yr-Ala yn ‘Wenvoe’, Caerdydd.

Mynychodd criwiau o Orsafoedd Tân ac Achub y Barri, Trelái, Pontypridd a Chaerdydd Canolog i’r digwyddiad a gweithiodd gyda chydweithwyr gwasanaethau brys a phartneriaid asiantaeth.

Mae’r tân bellach wedi’i ddiffodd, ond fe fydd yn parhau i fudlosgi am nifer o oriau.

Cynghorir trigolion agos i Wenvoe i gadw ffenestri a drysau ar gau fel rhagofal diogelwch oherwydd y meintiau mawr o fwg yn yr ardal.

Hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad.