Diffoddwyr Tân yn mynd i’r afael â thân gwyllt 12 hectar yn Abertridwr

Neithiwr (21 Mawrth 2022) mynychodd criwiau ledled de Cymru a Swyddogion Tân Gwyllt Arbenigol i leoliad tân glaswellt datblygedig yn Abertridwr wnaeth gorchuddio 12 hectar.

Defnyddiodd diffoddwyr tân offer arbenigol, gan gynnwys jetiau rîl pibell a churwyr tân i ddiffodd y tân a chynghorwyd trigolion lleol i gadw ffenestri a drysau ar gau ar yr adeg hon oherwydd mwg yn yr ardal.

 

Dywedodd John Treherne, Rheolwr Grŵp Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Ar Ddydd Llun yr 21ain o Fawrth 2022, mynychodd criwiau o Gaerffili, yr Eglwys Newydd a Thonypandy a Swyddogion Tân Gwyllt Arbenigol tân glaswellt yn Abertridwr. Roedd hwn yn dân glaswellt mawr, datblygedig a oedd yn gorchuddio tua 12 hectar.

Roedd y tân yn agos iawn at eiddo preswyl a heb weithredoedd cyflym ein criwiau, gallai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn.

Mae cynnau tân yn fwriadol yn drosedd ac yn rhoi bywydau mewn perygl. Mae tanau gwyllt yn effeithio ar ein cymunedau ledled Cymru ac yn tynnu adnoddau sylfaenol a gwerthfawr oddi wrth ein cymunedau, yn peri risg diangen i fywydau.”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn rhan o Ymgyrch Dawns Glaw, tasglu aml-asiantaeth o arbenigwyr o asiantaethau allweddol ledled Cymru i leihau, a lle bo modd dileu effaith tanau glaswellt ledled Cymru. Bob blwyddyn, mae tân yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cymunedau ac asiantaethau partner i leihau risg ac effaith tanau glaswellt.

Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am danau bwriadol, neu sy’n gweld unrhyw beth amheus i gysylltu â 101, neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Os gwelwch dân glaswellt, neu unrhyw un yn cynnau tân glaswellt, ffoniwch 999 ar unwaith.