Diffoddwyr Tân yn diffodd tân damweiniol ym Mhen-y-bont

Mynychodd nifer o griwiau i ddigwyddiad yn ystâd ddiwydiannol ym Mhen-y-bont ar ddydd Llun (11 Ebrill, 2022) yn dilyn adroddiadau o dân masnachol mawr.

Wnaeth Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân ac Achub ledled De Cymru, yn cynnwys Mynydd Cynffig, Porthcawl a Pontypridd, mynychu’r digwyddiad a gweithiodd ochr yn ochr â chydweithwyr yn y gwasanaethau brys i ddiogelu’r ardal.

Defnyddiodd criwiau ystod o offer arbenigol yn cynnwys jetiau rîl pibell, offer anadlu ac ysgol ymestyn driphlyg i ddiffodd y tân a wnaeth effeithio oddeutu tri chynhwysydd ISO a dau gerbyd.

Credir mai achos drwgdybiedig y tân oedd tanio damweiniol a dychwelodd criwiau i’r lleoliad i gynnal ail-archwiliad o’r eiddo fel rhagofal diogelwch.