Diffoddwyr Tân GTADC yn cynorthwyo Malawi yn dilyn dinistr Seiclon Freddy

Mae tîm o 27 o arbenigwyr Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU wedi teithio i Malawi drwy’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.

Yn eu plith mae dau aelod o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru; Pennaeth Gorsaf Darren Cleaves a Rheolwr Criw Tristan Bowen.

Mae’r tîm yn cefnogi ymdrechion chwilio ac achub yn dilyn Seiclon Freddy, sydd bellach wedi dod y storm drofannol hiraf a gofnodwyd erioed. Yn gweithredu yn Bangula, Malawi, mae’r tîm yn ymwneud â’r ymateb i lifogydd ac wedi llwyddo i achub cyfanswm o 167 o unigolion.

Mae llifogydd difrifol a thirlithriadau a achoswyd gan Seiclon Freddy wedi arwain at ddifrod helaeth ar draws Malawi. Mae mwy na 350,000 o bobl wedi’u dadleoli ac o leiaf 40,000 o dai wedi’u difrodi, yn ogystal ag ysgolion, ysbytai a ffyrdd.

Fel Gwasanaeth, rydym yn falch o allu ymateb i argyfyngau a thrychinebau yn fyd-eang gydag ein cydweithwyr yn y DU.

Ar hyn o bryd, mae Malawi yn arsylwi 14 diwrnod o alaru.