Dau Dîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU yn cael eu hanfon i Foroco wedi daeargryn trasig

Cafodd Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UK ISAR) ei anfon i Foroco i gefnogi’r ymateb i’r daeargryn trasig sydd wedi lladd mwy na 2,000 o bobl.

Mae dau dîm chwilio ac ateb o Gymru ymhlith y garfan o 62 ar lawr gwlad ar hyn o bryd sy’n helpu ac yn cefnogi gyda’r ymdrech achub ar ôl cael eu hanfon i Foroco drwy’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO).

Mae pedwar aelod o dîm Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yno – Pennaeth Adran y De, Steve Davies; y Rheolwr Gwylfa, Kevin Morgan, sydd wedi’i leoli yng Nghyfleuster Hyfforddi Earlswood; y Rheolwr Gwylfa, Steven Fuge, o Orsaf Gorseinon, a’r Diffoddydd Tân, Derek Lewis, o Orsaf Gastell Nedd – a dau aelod o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADE) hefyd – y Diffoddydd Tân, Alex Bland, o Orsaf Malpas, a’r Diffoddydd Tân, Rob Buckley, o Orsaf Trelái.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, James Cleverly:

“Mae Llywodraeth y DU wedi anfon cefnogaeth frys i Foroco, gan gynnwys tîm o 62 o arbenigwyr chwilio ac achub a phedwar ci achub i gynorthwyo gyda’r ymdrech achub.

“Rwy’n parhau i fod mewn cysylltiad â’r Gweinidog Tramor Bourita ac yn cydymdeimlo’n ddwys â phobl Moroco wedi’r digwyddiad trasig hwn.”

Mae Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU yn rhan o Waith Gwydnwch Cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) ac mae wrth law yn barhaol i gynnull a chynorthwyo gwledydd sydd wedi cael eu heffeithio gan drychinebau yn ôl yr angen.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân, Mark Hardingham:

“Mae meddyliau gwasanaethau tân ac achub y DU gyda phawb sydd wedi’u heffeithio gan y daeargryn dinistriol ym Moroco.

“Mae tîm o ddiffoddyddion tân a meddygon o’r DU sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig wedi cael eu defnyddio i gynorthwyo yn dilyn cais gan lywodraeth Moroco i lywodraeth Prydain.

“Byddan nhw’n darparu cymorth technegol arbenigol lle mae ei angen fwyaf i achub bywydau a chefnogi timau’r gwasanaethau brys lleol”.

Dyma’r trydydd tro yn 2023 i GTADC a’r ail i GTACGC anfon Diffoddyddion Tân i ardal drychineb.

  • Ym mis Chwefror 2023, roedd tîm o 77 o arbenigwyr Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UKISAR), gan gynnwys tri aelod o GTADC – y Diffoddydd Tân, Luke Davison o Orsaf Malpas; y Rheolwr Criw, Emma Atcherley o Orsaf Ganolog Caerdydd, a’r Diffoddydd Tân, Robert Buckley, o Orsaf Trelái – a dau aelod o GTACGC – Pennaeth Adran y De, Steve Davies a’r Rheolwr Gwylfa, Phil Irving o Orsaf Hwlffordd – yn rhan o’r ymgyrch achub yn Nhwrci.
  • Ym mis Mawrth 2023, roedd tîm o 27 o arbenigwyr Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UKISAR), gan gynnwys dau aelod o GTADC – Comander yr Orsaf, Darren Cleaves a’r Rheolwr Criw, Tristan Bowen – wedi cael eu hanfon i Falawi drwy’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) yn dilyn Seiclon Freddy.

Mae tîm Chwilio ac Ateb Rhyngwladol y DU yn ymateb yn bennaf i argyfyngau chwilio ac achub trefol dramor ar ran Llywodraeth y DU.

Mae unrhyw dîm Chwilio ac Ateb Rhyngwladol y DU sy’n cael ei ddefnyddio yn hunangynhaliol ar ôl cyrraedd ac yn darparu ei fwyd, dŵr, cysgod, glanweithdra, cyfathrebu a’r holl offer angenrheidiol ei hun er mwyn ymgymryd â gweithrediadau chwilio ac achub am hyd at 14 diwrnod. Mae hyn er mwyn sicrhau nad oes baich ychwanegol yn cael ei roi ar wlad sydd eisoes yn dioddef galwadau ar ei hadnoddau yn dilyn trychineb sydyn.