Dathlu 50 mlynedd o Falpas

Brigâd Dân Sir Casnewydd, a leolir yn Stryd y Dociau yng nghanol y dref, oedd yn gyfrifol am ddiogelu dinas Casnewydd yn wreiddiol. Caewyd yr orsaf yn 1969 ar gyfer ei dymchwel ac agorwyd Gorsaf Dân Malpas ar Ffordd Malpas, ynghyd â Gorsafoedd cyfagos ym Maendy a Dyffryn.

Agorwyd yr Orsaf yn swyddogol gan ei Theilyngdod y Faeres Casnewydd, y Cynghorydd Mrs L.M. Bowen Y.H. ar yr 2ail o Ragfyr 1969, gan barhau o dan Frigâd Dân Sir Casnewydd.

Yn 1974 unodd Brigadau Tân Sir Fynwy a Chasnewydd i ffurfio Brigâd Dân Gwent, ac yn 1996 daeth gorsaf dân Malpas yn Bencadlys Rhanbarth y De i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Erbyn hyn, mae Gorsaf Dân Malpas ymhllith dros 50 o orsafoedd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac mae ganddi amrywiaeth eang o alluoedd diffodd tân ac achub. Mae’r rhain yn cynnwys cychod achub, timau achub â rhaff, timau dŵr cyflym ar gyfer afonydd a thîmau llifogydd a thimau datglymu arbenigol ar gyfer gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. Mae Malpas hefyd â changen lwyddiannus o Gadetiaid Tân ac mae’n gartref i Gangen Casnewydd SARA – Cymdeithas Achub Ardal Hafren.

Dros y blynyddoedd, mae criwiau Malpas wedi cefnogi digwyddiadau rhyngwladol gan gynnwys uwchgynhadledd NATO gyda’r Arlywydd Obama yn 2014, a gafodd sylw ar raglen BBC lwyddiannus Profiad Gwaith Rod Gilbert gyda’r BBC, ac yn ogystal â hyn mae’r orsaf newydd agor canolfan ymgysylltu aml-asiantaeth newydd sbon ar gyfer y gymuned leol.

Ymunwch â ni i ddathlu hanner canmlwyddiant yr orsaf, lle bydd criwiau Malpas yn cynnal diwrnod agored yn yr Orsaf gyda mynediad am ddim, Ddydd Sadwrn y 7fed o Fedi o 10yb tan 4yh gyda chefnogaeth partneriaid gwasanaethau brys yn cynnwys Heddlu Gwent a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Bydd hi’n ddiwrnod llawn, gydag arddangosfa cŵn heddlu, arddangosiadau gwrthdrawiadau ac achub traffig ar y ffordd, band byw a llawer mwy!