DATGANIAD: UBT yn cyhoeddi canlyniad y bleidlais i dderbyn y cynnig cyflog

Mae Undeb y Brigadau Tân wedi cyhoeddi heddiw bod eu haelodau wedi pleidleisio i dderbyn cynnig cyflog gwell y Cyflogwyr Cenedlaethol, sef 7% wedi’i ôl-ddyddio i fis Gorffennaf diwethaf 2022 a 5% arall o fis Gorffennaf 2023.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Huw Jakeway QFSM, “Rwy’n falch iawn bod ateb i’r anghydfod cyflog cenedlaethol wedi’i ganfod heb fod angen gweithredu diwydiannol. Mae’r anghydfod parhaus hwn wedi creu llawer iawn o ansicrwydd i bawb. Mae derbyn y cynnig cyflog hwn yn rhyddhad i bawb, a gobeithio y bydd yn mynd rhywfaint o’r ffordd i fynd i’r afael â phwysau costau byw.”