Cerbyd ffordd-i-reilffordd newydd i helpu diffoddwyr tân a chriwiau ambiwlans i gyrraedd argyfyngau Twnnel Hafren

Cerbyd ffordd-i-reilffordd newydd i helpu diffoddwyr tân a chriwiau ambiwlans i gyrraedd argyfyngau Twnnel Hafren

Bydd diffoddwyr tân a chriwiau ambiwlans erbyn hyn yn gallu cyrraedd digwyddiadau brys yn Nhwnnel Hafren yn llawer cyflymach gan fod ganddynt bellach gerbyd ffordd-i-reilffordd pwrpasol diolch i Network Rail.

Datblygodd ac ariannodd Network Rail y cerbyd aml-asiantaeth cyn ei drosglwyddo’n swyddogol i’r gwasanaethau brys ar y 12fed o Dachwedd ac o hyn allan bydd yn cael ei gadw yng Ngorsaf Tân ac Achub Maindee, Casnewydd.

Gall y Mitsubishi Canter sy’n pwyso 7.25 tunnell newid o fynd ar y ffordd i’r rheilffyrdd gan helpu’r gwasanaethau brys i gyrraedd unrhyw ddigwyddiadau ar y rheilffordd yn llawer cyflymach gan hefyd helpu i achub bywydau o bosib.

Mae Network Rail wedi bod yn gweithio ar y dyluniad gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, GOS Tool and Engineering, Gwasanaeth Tân ac Achub Avon a Gwlad yr Haf, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans y De Orllewin i sicrhau bod y cerbyd yn darparu’r amseroedd ymateb cyflymaf posibl wrth gario eu hoffer achub bywydau.

Gweithiodd Network Rail yn agos iawn gyda GOS Tool and Engineering, cyflenwr lleol, a leolir ym Mlaenafon, i ddatblygu a darparu’r cynnyrch pwrpasol hwn sy’n ateb anghenion y gwasanaethau brys.

Cyn i’r cerbyd fod yn weithredol bydd cyfnod o hyfforddi a phontio i griwiau ymgyfarwyddo â’r cerbyd newydd.

Dywedodd Gareth Evans, Rheolwr Gorsaf Maendy gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Rwy’n falch iawn o groesawu’r cerbyd gwych hwn i’n fflyd ymateb. Mae’n amlwg bod ganddo fanteision sy’n cynnwys amseroedd ymateb cyflymach, ymateb amlasiantaeth yn ogystal â bod yn llawer mwy hyblyg ac ystwyth na’r hyn sy gyda ni ar hyn o bryd.

“Gan fod y cerbyd yn gwbl weithredol ar y rheilffyrdd bydd yn sicrhau bod ein criwiau’n gallu ymateb yn effeithiol mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd ar hyd traciau rheilffordd gan ddarparu ymyriad uniongyrchol amhrisiadwy i helpu i achub bywydau ac atal digwyddiadau rhag gwaethygu.”

Dywedodd Robyn MacNamara, Rheolwr Prosiect Network Rail: “Diogelwch ein teithwyr yw ein blaenoriaeth a bydd y cerbydau hyn yn caniatáu ymateb brys amlasiantaeth cyflymach a mwy effeithiol.

“Mae Twnnel Hafren tua phedair milltir o hyd, felly pan fydd digwyddiad brys yn codi, mae mynediad cyflym gan y gwasanaethau brys yn hanfodol. Dyna pam yr ydym wedi datblygu’r cyfrwng pwrpasol hwn sydd â darpariaethau penodol ar gyfer diffoddwyr tân a chriwiau ambiwlans.

“Hoffem ddiolch i’n partneriaid yn y gwasanaethau brys a’n cyflenwr, GOS Tool and Engineering, am eu cymorth wrth ddatblygu ein syniad, gan greu’r cerbyd newydd hwn i ymateb i ddigwyddiadau.

“Rydym hefyd yn rhoi cerbyd tebyg i Wasanaeth Tân ac Achub Avon a Gwlad yr Haf, yn ddiweddarach y mis hwn, gan olygu y bydd gwasanaethau brys, yng Nghymru a Lloegr ill dau, mewn sefyllfa well i ddelio ag unrhyw argyfyngau a allai godi o fewn Twnnel Hafren.”

Dywedodd Clare Langshaw, Rheolwr Gweithrediadau Ambiwlans mewn Perthynas â Gwydnwch a Gweithrediadau Arbenigol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a gyfrannodd at ddylunio’r cerbyd: “Mae’r cerbyd hwn wedi cael ei ddatblygu dros gyfnod gyda’n partneriaid lleol a chenedlaethol er mwyn ein galluogi i ymateb yn well i ddigwyddiadau heriol ar y rhwydwaith rheilffyrdd gan gynnwys Twnnel Hafren.

“Mae’n gynllun unigryw a ddatblygwyd ar gyfer ateb anghenion ein gwasanaethau priodol wrth iddynt fynd i’r afael â’r digwyddiadau hyn, sy’n heriol iawn i’n criwiau yn logistaidd. Bydd y cerbyd hwn yn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i gyrraedd cleifion a darparu triniaeth a fydd, gobeithio, yn achub bywydau.

“Bydd hefyd yn gwella ein hymateb amlasiantaeth, ac rydym wrth ein bodd yn rhannu’r cerbyd gyda’n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân ac achub, yr ydym eisoes yn gweithio’n agos gyda hwy.”