Canlyniad tân masnachol ‘Monnow Street’

Wnaeth mwy na 40 o griwiau o Orsafoedd Tân ac Achub ar draws De Cymru mynychu digwyddiad tân mawr yn Nhrefynwy gyda chydweithwyr yn y gwasanaethau brys ac asiantaethau partner.

Am oddeutu 9:20yb ar ddydd Llun 23 Mai 2022, cawsom adroddiadau am dân ar ‘Monnow Street’ yn Nhrefynwy. Ar ôl cyrraedd, roedd criwiau’n wynebu tân mawr, datblygedig, a oedd yn effeithio ar eiddo masnachol.

Gweithiodd y criwiau’n ddiflino i reoli a chyfyngu’r tân, er mwyn ei atal rhag lledaenu i eiddo cyfagos.

Diffoddodd y tân a derbyniwyd neges stop tua 5:09yp.

Mudlosgodd y safle dros nos, a pharhaodd y criwiau i leihau’r mannau problemus, gan ddiogelu’r ardal a’r gymuned rhag risg pellach.

Arhosodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn y fan a’r lle tra bod ymchwiliad tân yn cael ei gynnal. Roedd achos tybiedig y tân yn benderfynol o fod yn gynnau tân damweiniol.

Roedd y stryd ar gau fel rhagofal diogelwch a chynghorwyd y rhai oedd angen teithio ar hyd y stryd i gynllunio llwybrau neu ddulliau trafnidiaeth eraill. Mae’r ffordd nawr wedi ailagor.

Hoffem ddiolch i’n cydweithwyr o Wasanaethau Tân ac Achub Hereford and Worcester a Gloucestershire am eu cefnogaeth arbenigol yn ystod y digwyddiad hwn.

Hoffem hefyd ddiolch i’r nifer o fusnesau cyfagos a fu mor garedig trwy ddarparu bwyd a diod i’n criwiau, ac i’r gymuned am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad parhaus yn ystod y digwyddiad hwn.

Mae’r eiddo bellach wedi’i ddiogelu a byddem yn annog y cyhoedd i barhau i ddilyn cyngor ac arweiniad Heddlu Gwent a Chyngor Sir Fynwy.