Canllawiau newydd ynghylch ymosodiadau ar weithwyr brys

MAE canllawiau newydd i gynorthwyo llysoedd benderfynu sut i ddedfrydu’r rhai sy’n ymosod ar weithiwr brys yn dod yn weithredol heddiw, ddydd Iau, 1 Gorffennaf 2021.

 

Bydd canllawiau’r Cyngor Dedfrydu’n cynorthwyo’r llysoedd yng Nghymru a Lloegr i lunio asesiad cytbwys o ddifrifoldeb y drosedd a rhoi dedfryd gymesur.

 

Dyma’r tro cyntaf y bydd gan farnwyr ac ynadon ganllawiau penodol ar gyfer dedfrydu troseddau ymosod ar weithwyr brys, sy’n adlewyrchu’r ddeddfwriaeth a gynyddodd y ddedfryd uchaf ar gyfer ymosodiad cyffredin pan yw’r dioddefwr yn weithiwr brys.

 

Mae’r gwasanaethau brys yng Nghymru, lle mae ymosodiadau ar yr heddlu a chriwiau tân ac ambiwlans wedi cynyddu, wedi croesawu’r canllawiau newydd.

 


Dywedodd Dylan Parry, Swyddog Prosiect Trais ac Ymddygiad Treisgar Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Gall gweithred dreisgar sy’n cymryd eiliad gael effaith ddinistriol a thymor hir ar ein staff, felly mae arnom ni angen sicrhau, pan ymosodir ar weithiwr brys, y ceir cyfiawnder iddyn nhw.

“Mae’r canllawiau newydd hyn yn ychwanegiad a groesewir ac maen nhw’n darparu eglurder a chysondeb wrth ddedfrydu troseddau o’r fath.”

 

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Mark Travis: “Mae ein staff gwasanaethau goleuadau glas yn dod i’w gwaith i wasanaethu a diogelu’r cyhoedd.

“Er mwyn ein galluogi ni i wneud hynny, mae angen i’r staff deimlo’n ddiogel a hyderus, heb y bygythiad o gael eu cam-drin neu ymosod arnyn nhw.

“Mae ymosod ar weithwyr brys yn medru cael canlyniadau sy’n medru newid bywyd y troseddwr a’u teulu, weithiau oherwydd penderfyniad afresymol wedi’i wneud mewn ennyd wyllt.

“Byddwn yn mynd ar ôl unrhyw un sy’n ymosod ar weithwyr brys yn ddiflino, ac rydym ni’n falch o weld fod y canllawiau newydd yn adlewyrchu hyn.”

 

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly: “Mae pob ymosodiad ar weithiwr brys yn cael effaith ofnadwy ar eu ffrindiau, eu teulu a’u hanwyliaid.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam ymlaen wrth sicrhau fod yr unigolion hynny sy’n cyflawni trosedd trwy ymosod ar weithiwr brys yn cael eu gwneud yn atebol.

“Bydd y canllawiau i farnwyr ac ynadon yn sicrhau bod dedfrydau’n gymesur ond hefyd yn adlewyrchu’r boen a’r dioddefaint a achoswyd gan y troseddwyr.”

 

Dywedodd Prif Gwnstabl dros dro Heddlu Dyfed Powys, Claire Parmenter: “Dan y wsig mae unigolyn efo teulu, ffrindiau ac anwyliaid.

“Ni ddylai unrhyw un ddisgwyl dod dan unrhyw fath o ymosodiad wrth wneud eu gorau i wasanaethu’r cyhoedd ac achub bywydau.

“Rydym ni’n croesawu’r canllawiau dedfrydu newydd hyn.

“Mae’n bwysig bod dedfrydau’n adlewyrchu’r niwed a’r trallod a achosir i’r dioddefwyr hyn – gweithwyr proffesiynol sy’n gwneud eu gwaith.”

 

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Sacha Hatchett: “Bob diwrnod mae ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn ymdrin â sefyllfaoedd anodd a heriol, gan roi ei hunain yn llwybr niwed er mwyn cynnal y gyfraith a diogelu’r cyhoedd.

“Mae’n rhaid iddyn nhw fedru cyflawni eu dyletswyddau mor ddiogel ag y bo’n bosibl.

“Ni ddylid ystyried dioddef ymosodiad fel ‘rhan o’r swydd’.

“Mae’n gwbl annerbyniol iddyn nhw gael eu bygwth, ymosod arnyn nhw, eu cam-drin yn eiriol neu boeri arnyn nhw – a dylai’r rhai sy’n gyfrifol wynebu grym llawn y gyfraith.

“Mae’r ymosodiadau hyn yn cael effaith hirhoedlog ac rydym ni’n croesawu’r canllawiau dedfrydu newydd yn wresog.”

 

Dan y Ddeddf Ymosod ar Weithwyr Brys (Troseddau) 2018, mae diffiniad gweithiwr brys yn ymestyn i gwmpasu staff carchar, gweithwyr chwilio ac achub a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

 

Dywedodd Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru: “Mae staff sy’n gweithio yn y GIG yn gwneud gwaith anodd, yn gweithio dan amgylchiadau heriol, ac maen nhw yno i helpu pobl.

“Mae wynebu ymosodiad neu unrhyw ymddygiad annerbyniol arall yn gwbl annerbyniol.

“Rydym ni’n croesawu’r canllawiau, a fydd yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau a’r effaith ar weithwyr brys, yn gorfforol ac yn emosiynol.”

 

Cyflawnwyd mwy na 4,240 o ymosodiadau ar weithwyr brys yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2019 a Thachwedd 2020, yn cynrychioli cynnydd misol cyfartalog o 202 yn 2019 i 222 yn 2020, neu 10%.

 

Roedd yr ymosodiadau’n amrywio o gicio, dyrnu a tharo pennau i boeri a cham-drin geiriol.
Dywedodd Tony Dicken, Erlynydd y Goron y Dosbarth ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru: “Mae’r canllawiau newydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol yn ffurfiol i lysoedd ddefnyddio’r cynnydd priodol i ddedfrydau ar gyfer troseddau ymosod ar weithiwr brys.

“Mae hefyd yn ofynnol i ddefrydwyr nodi yn y llys agored fod y drosedd wedi’i gwaethygu oherwydd bod y dioddefwr yn weithiwr brys a datgan beth fyddai’r ddedfryd wedi bod pe na bai’r elfen honno’n bodoli.

“Golyga hyn y bydd yn amlwg i ddiffinyddion a’r cyhoedd pa mor ddifrifol yw’r troseddau hyn ym marn y gyfraith.”

 

Ychwanegodd Ei Anrhydedd y Barnwr Rosa Dean o’r Cyngor Dedfrydu: “Mae ymosodiad yn drosedd trawmatig a gall achosi trallod mawr i’r dioddefwr yn gorfforol ac yn seicolegol, ac mae’n bwysig bod dedfrydau’n adlewyrchu’r niwed a’r trallod a achosir i lawer o bobl.

“Bydd y canllawiau’n sicrhau cyflwyno dedfrydau priodol a chymesur ar gyfer y troseddau hyn, sy’n cydnabod yn llwyr y niwed a achosir i’r dioddefwr.”

 

Yn 2018 cafodd y ddedfryd uchaf dan y Ddeddf Ymosodiad ar Weithwyr Brys (Troseddau) ei dyblu o chwe mis i 12 mis yn y carchar, ond yn fuan gallai troseddwyr wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar dan ddeddfau newydd.

 

Ym mis Mai lansiodd gwasanaethau gweithwyr brys yng Nghymru yr ymgyrch newydd Gyda Ni Nid, Yn Ein Herbyn yn gofyn i’r cyhoedd eu trin gyda pharch.

 

Addunedwch eich cefnogaeth ac ymunwch yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #GydaNiNidYnEinHerbyn neu #WithUsNotAgainstUs.