Canllaw Diogelwch Pencampwriaeth y Chwe Gwlad GTADC

Rydym yn gobeithio gwnaeth pawb mwynhau’r Bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Rydym yn deall bod pobl yn hoffi cwpl o ddiodydd wrth gefnogi’n timau, ond rydym yn eich annog i yfed yn gyfrifol a ddilyn y cyngor ddiogelwch dilynol;

Peidiwch ag yfed a gyrru

Peidiwch â mentro bod yn un o’r 100,000 o yrwyr sydd wedi yfed neu gymryd cyffuriau sy’n cael eu dal bob blwyddyn. Gallech wynebu gwaharddiad o 12 mis o leiaf, dirwy fawr, cofnod troseddol neu gael eich carcharu hyd yn oed.

Peidiwch â cheisio coginio ar ôl yfed

Cofiwch – mae tân yn cynnau pan fydd eich sylw yn crwydro! Coginio heb oruchwyliaeth yw un o brif achosion tanau domestig yn ne Cymru a gall arwain at ganlyniadau trasig. Os mewn parti neu os ydych chi’n cael noson allan yn y dafarn, mae’n well prynu bwyd ar y ffordd adref, yn hytrach na cheisio coginio ar ôl cyrraedd. Os ydych chi eisiau gwneud bwyd o gwbl ar ôl cyrraedd adref, mae’n well paratoi bwyd oer.

Lawrlwythwch ein llyfyrn diogel ac iach yma.

Arhoswch yn ddiogel o gwmpas dwr

Peidiwch â mynd i nofio ar ôl yfed alcohol. Mae alcohol yn chwarae rhan mewn nifer o ddamweiniau dŵr oherwydd ei fod yn amharu ar eich gallu i wneud penderfyniadau, y ffordd rydych yn ymateb a’ch gallu i nofio.

“Ni ddylech fynd mewn i’r dŵr ar ôl yfed alcohol. Mae alcohol yn cyfrannu at nifer o ddamweiniau cysylltiedig â dŵr. Mae alcohol yn amharu ar eich gallu i wneud penderfyniadau, y ffordd rydych yn ymateb a’ch gallu i nofio. Os ydych yn bwriadu yfed alcohol, gwnewch hynny ar ôl bod yn nofio. Mae nifer o ddamweiniau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn digwydd ger, yn hytrach nac yn, y dŵr. Felly, os ydych chi allan yn yfed ger y môr neu ger afon, gofalwch fod eich ffrindiau i gyd yn ddiogel.”
Ymgyrch Parchu’r Dŵr yr RNLI

Darganfyddwch mwy o wybodaeth am ddiogelwch yn y dwr yma.